Fe ddylai’r Pennaeth (neu’r Cydlynnydd ADY) adrodd yn rheolaidd I’r corff llywodraethu ar ADY yn yr ysgol, ond gall y corff llywodraethu ddymuno penodi llywodraethwr ar fyder ADY I gefnogi a chynorthwyo’r corff llywodraethu I gael gwell dealltwriaeth a gwybodaeth am ADY yn yr ysgol. Mae bod yn llywodraethwr gyda chyfrifoldeb dros ADY yn golygu gwneud eich gorau i sicrhau bod disgyblion ag ADY yn cael y cymorth a’r gefnogaeth y maen nhw eu hangen i gael mynediad i’r cwricwlwm a chymryd rhan cyflawn ym mywyd yr ysgol. Mae’r rôl yn cynnwys:
cadarnhau bod gan yr ysgol bolisi ADY a’i fod yn cael ei adolygu’n flynyddol. *Fe ddylai ysgolion gyfeirio at y Cod ADY gan fod y Cod ADY yn gyfuniad o’r gofynion cyfreithiol, canllaw statudol a chanllaw anstatudol;