Mae cyrff cynrychioliadol, fel cymdeithasau neu fforymau llywodraethwyr, mewn ardal Awdurdod Lleol (ALl), yn cyflawni diben gwerthfawr mewn pedair agwedd o leiaf:
maent yn rhoi cyfle i lywodraethwyr o bob ysgol yn eu ALl ffurfio rhwydwaith proffesiynol a rhannu arfer da o’u cyrff llywodraethu a’u hysgolion eu hunain;
maent yn gyfrwng ar gyfer trafod y datblygiadau addysg diweddaraf yn eu ALl / Consortia Rhanbarthol (CRh) ac yn y sector addysg yn genedlaethol;
maent yn gyfrwng effeithiol i Gwasanaethau Governors Cymru, yr ALl, y CRh a Llywodraeth Cymru i ymgynghori ar faterion strategol a pholisi sydd yn effeithio ar ysgolion, llywodraethu ac ansawdd darpariaeth addysg; ac
maent yn darparu mecanwaith i lywodraethwyr ymgysylltu’n llawn gyda swyddogion yr ALl / CRh i wella effeithlonrwydd ysgolion a chanlyniadau dysgwyr.