Protocol ar gyfer Ymweliadau Llywodraethwyr

  • Dylid trefnu pob ymweliad o flaen llaw rhwng y llywodraethwr cyswllt, yr athro/athrawes dosbarth, y pennaeth ac mewn ysgol uwchradd y pennaeth adran. Yn ddelfrydol dylid gwneud hyn mewn cyfarfod cyn ymweliad gan y bydd hynny’n rhoi cyfle i’r llywodraethwr a’r athro drafod beth y bydd y dosbarth yn ei wneud yn ystod yr ymweliad ac unrhyw weithgareddau neilltuol yr hoffai’r llywodraethwr ganolbwyntio arnynt e.e. gwaith grwpiau, gwahaniaethu.

  • Ar ddiwrnod yr ymweliad, dylai’r llywodraethwr adrodd i’r pennaeth ac mewn ysgol uwchradd, i’r pennaeth adran.

  • Dylai’r llywodraethwr geisio cyrraedd y dosbarth ar amser sydd yn debygol o greu’r ymyrraeth lleiaf.

  • Dylai’r athro/athrawes gyflwyno’r llywodraethwr i’r dosbarth.

  • Trwy gydol yr ymweliad, dylai’r llywodraethwr ymyrryd cyn lleied â phosibl ar waith y dosbarth. Ond yn aml mae disgyblion, yn enwedig y rhai iau, yn hoffi ac yn ymateb i sylw gan lywodraethwr ac nid oes amheuaeth y bydd y llywodraethwr yn cael mwy o wybodaeth am yr ysgol a’r hyn a wna wrth siarad gyda disgyblion. Ac felly, ar adeg priodol a gyda chaniatad yr athro/athrawes gall llywodraethwr sgwrsio gyda disgyblion unigol am eu gwaith.

  • Dylai llywodraethwyr fod yn ymwybodol bod rhai pynciau yn addas ar gyfer gwaith mewn grwpiau neu mewn parau a bod rhai gweithgareddau yn golygu bod y disgyblion yn symud o gwmpas yr ystafell. Ac yn annorfod ar adegau felly bydd lefelau ssŵn yn uwch na’r arfer.

  • Ar ddiwedd y wers, neu pan fydd yn gadael dylai’r llywodraethwr ddiolch i’r athro/athrawes a’r dosbarth am yr ymweliad.

Ar ôl yr ymweliad
  • Cyn gynted â phosibl, ac yn ddelfrydol ar yr un diwrnod, dylai’r llywodraethwr a’r athro/athrawes dosbarth drafod yr ymweliad i esbonio unrhyw faterion.

  • Dylai’r llywodraethwr cyswllt gyflwyno adroddiad i’r corff llywodraethu llawn.

  • Er y gall rhai llywodraethwyr deimlo’n hapusach i roi adroddiad llafar yn unig i’r corff llywodraethu mae’n llawer gwell syniad darparu adroddiad ysgrifenedig byr. Mae sawl rheswm dros hyn. I ddechrau, dylai’r athro/athrawes yr arsylwyd ar eu dosbarth gyfrannu at yr adroddiad i atal unrhyw gamgymeriadau neu gamsyniadau. Yn ail, gellir dosbarthu adroddiad ysgrifenedig i’r llywodraethwyr cyn cyfarfod y corff llywodraethu gan roi amser iddynt ystyried yr adroddiad a myfyrio ar unrhyw bwyntiau yr hoffent eu trafod. Yn olaf os oes amser hir rhwng yr ymweliad a chyfarfod nesaf y corff llywodraethu gall llywodraethwr anghofio manylion yr ymweliad.

  • Ni ddylid ar unrhyw gyfrif enwi unrhyw ddisgyblion yn yr adroddiad.

  • Byddai’n syniad da cynhyrchu adroddiad i’r corff llywodraethu dan nifer o benawdau. Mae sawl rheswm dros hyn. I ddechrau mae fformat cyffredin yn golygu y bydd adroddiadau pob llywodraethwr cyswllt yn canolbwyntio ar nifer o’r un pethau. Yn ail bydd yn darparu fframwaith ar gyfer y llywodraethwyr hynny allai fod yn anesmwyth i gynhyrchu adroddiad ysgrifenedig.

  • Fel y nodwyd eisoes, nid oes angen i’r adroddiad fod yn hir iawn a dylid ei ysgrifennu gyda’r athro/athrawes dosbarth.

  • Isod mae rhestr o nifer o benawdau y gellid eu defnyddio i ysgrifennu adroddiad llywodraethwr cyswllt. Nid yw’r rhestr yn gyflawn ond bydd yn gymorth i ddelio gyda’r materion a godwyd yn y ddau bwynt blaenorol:
    – Dyddiad yr ymweliad
    – Enw’r athro/athrawes
    – Oedran y dosbarth
    – Nifer y disgyblion yn y dosbarth a’r cydbwysedd rhyw
    – Pryd y daeth y llywodraethwr i’r dosbarth
    – Yr amser a dreuliwyd gyda’r dosbarth
    – Pwnc neu faes a astudiwyd
    – Adnoddau a ddefnyddiwyd
    – Beth ddigwyddodd yn y wers
    – Yr argraffiadau mwyaf a gafodd yr ymweliad arna’i
    – Arsylwadau eraill

Mae’n amlwg mai’r tri pwynt diwethaf ydy’r pwysicaf i’r corff llywodraethu er mwyn cael dealltwriaeth o’r hyn a welwyd ac felly dyma fydd y rhan fwyaf o gynnwys yr adroddiad.

Monitro ac Adolygu
Crëwyd ar ……………………………………………………………………………………………….
Diweddarwyd ddiwethaf ar …………………………………………………………………………………………
Mabwysiadwyd gan Gorff Llywodraethu llawn ar ………………………………………………………………….
Dyddiad adolygu wedi’i drefnu …………………………………………………………………………………
Llofnod Cadeirydd y Llywodraethwr a’r dyddiad ……………………………………………………………..


© Gwasanaethau Governors Cymru

Cyhoeddwyd: 8/10/2008

Sylwadau

Ychwanegu sylw

Cysylltwch â ni

01443 844532 / 029 2075 3685 [email protected]
Sam MacNamara – 07943 887275 / Jane Morris – 07957 969708