Ymgynghoriad yn cau: 15 Mawrth 2021
Cliciwch yma am yr ymgynghoriad
Ymgynghoriad yn cau: 26 Mawrth 2021
Cliciwch yma am yr ymgynghoriad
Mae’r cwricwlwm yng Nghymru yn newid – ac rydym am gael eich help i benderfynu beth fydd hyn yn ei olygu i gymwysterau.
O nawr tan 9 Ebrill, rydym yn ymgynghori ar:
– y pynciau TGAU a ddylai fod ar gael yn y dyfodol;
– y cymwysterau eraill a wnaed ar gyfer Cymru a ddylai fod ar gael hefyd.
Mae’r ymgynghoriad yn cynnwys llawer o gynigion sy’n cwmpasu’r holl feysydd dysgu eang, rhai yn awgrymu newidiadau llai i gymwysterau tra bod eraill ar raddfa fwy.
Mae’r cynigion yn cynnwys TGAU newydd mewn Astudiaethau Cymdeithasol a Pheirianneg; TGAU cyfunol newydd ym meysydd Mathemateg, Cymraeg, Saesneg a Gwyddoniaeth; yn ogystal â chymwysterau bitesize sy’n targedu sgiliau ymarferol mewn mathemateg ac ieithoedd.
Mae eich barn fel Llywodraethwyr yn bwysig i ni. Bydd eich adborth yn ein helpu i benderfynu a yw ein cynigion ar y trywydd iawn, neu a ddylen ni eu diwygio. Unwaith y byddwn wedi penderfynu ar yr ystod o gymwysterau, byddwn yn cyhoeddi adroddiad i grynhoi yr ymatebion ac egluro ein penderfyniadau.
Am fwy o wybodaeth ac i gael mynediad at y dogfennau ymgynghori cliciwch yma.
01443 844532
[email protected]
Sam MacNamara 07943 887275 / Jane Morris 07957 969708