Tystebau - Mae tanysgrifwyr yn gwerthfawrogi en gwasanaeth!


Llywodraethwr

Mae eu gwefan yn parhau i fod yn ffynhonnell ardderchog o wybodaeth ac arweiniad ac mae eu cyrsiau hefyd yn werthfawr.

Cadeirydd Llywodraethwyr, Ffederasiwn, Sir y Fflint

Ymateb prydlon bob amser a chyngor defnyddiol.

Cadeirydd Llywodraethwyr, Ysgol Gynradd, Caerdydd

Mae gwybodaeth Gwasanaethau Governors Cymru yn werthfawr, yn wybodus ac yn dod â’r pwnc dan sylw yn fyw.

Cadeirydd Llywodraethwyr, Ysgol Uwchradd, Casnewydd

Gwasanaeth ardderchog gan Governors Cymru. Maen nhw bob amser yn ymateb yn gyflym i unrhyw gwestiynau/ymholiadau ac yn ffynhonnell gwybodaeth. Argymell yn fawr.

Cadeirydd Llywodraethwyr, Ysgol Gynradd, Sir Ddinbych

Rwyf wedi cysylltu gyda GCS ar sawl achlysur ac maen nhw bob amser yn gymwynasgar gydag atebion ac esboniadau clir.

Cadeirydd Llywodraethwyr, Ysgol Gynradd, Pen-y-bont ar Ogwr

Mae Gwasanaethau Governors Cymru yn tynnu oddi ar gyfoeth o brofiad ac arbenigedd i gynnig cyngor ac arweiniad cyfeillgar, annibynnol a chywir. Mae’r amser y mae Sam a Jane yn ei gymryd i ymateb i’n cwestiynau yn arbennig o dda. Mae’r gwasanaeth yn ddwyieithog ac mae’r ffaith bod y gwasanaeth ar gael gyda’r nos yn ddefnyddiol iawn i’n llywodraethwyr prysur. Mae cynnwys y wefan yn cael ei ddiweddaru’n gyson gydag enghreifftiau o arfer da ac astudiaethau achos ar gael i gynnig gwasanaeth adnoddau cynhwysfawr, y mae’r holl lywodraethwyr yn yr ysgol yn gallu ei ddefnyddio. I gloi, mae’r cytundeb gwasanaeth yn cynnig gwerth ardderchog am arian ac fe fyddwn yn argymell Gwasanaethau Governors Cymru i unrhyw gorff llywodraethu yng Nghymru.

Clerc i’r Llywodraethwyr, Ysgol Uwchradd, Sir Ddinbych

Mae eich gwasanaeth mor werthfawr imi. Mae eich gwefan yn wych, yn gyfeillgar i’r defnyddwyr, wedi’i gosod allan yn dda, mae’r wybodaeth yn hawdd cael gafael arni ac mae’r cyngor a dderbyniwn gennych yn ardderchog. Yn werth pob ceiniog!

Cadeirydd Llywodraethwyr, Ysgol Gynradd, Torfaen

Rwyf wedi derbyn cyngor prydlon a defnyddiol ar y ddau fater llywodraethiant yr wyf wedi eu codi gyda GCS.

Cadeirydd Llywodraethwyr, Ysgol Gynradd, Sir Ddinbych

Roedd y gwasanaeth yn gywir, yn ddibynadwy ac yn help mawr iawn wrth ddelio gyda’r amrywiol faterion a godwyd mewn llywodraethiant ysgol.

Swyddog ALl, Ynys Môn

Diolch am eich gwasanaethau mewn perthynas â chefnogaeth ac arweiniad i’n hysgolion, a’r Awdurdod Lleol fel a phan mae angen. Rydym bob amser yn gwerthfawrogi’r amser rydych yn ei gymryd i ddelio gydag amrediad eang o faterion ac ymholiadau a gyflwynir i’ch tim, a’r ymateb iddyn nhw. Mae’r manylion mewn perthynas ag arweiniad a chyngor a ddarperir yn eich ymatebion yn amhrisiadwy, ac mae ymatebion o’r fath wedi sicrhau bod ein sefydliadau addysgol a’r ALl wedi delio gyda materion sensitif mewn dull sensitif sydd yn cyd-fynd gyda disgwyliadau cenedlaethol. Mae adnoddau, gwybodaeth gwefan a newyddlenni hefyd yn darparu sylfaen gadarn i roi gwybodaeth am arfer da ar amrediad o faterion beunyddiol i ysgolion ac i ninnau.

Cadeirydd Llywodraethwyr, Ysgol Gynradd, Sir y Fflint

Gwasanaeth ardderchog a gwybodus gyda chyfoeth o adnoddau ar gael i danysgrifwyr. Buaswn wedi rhoi mwy na 5 seren pe bai hynny’n bosibl.

Cadeirydd Llywodraethwyr, Ysgol Gynradd, Pen y Bont or Ogwr

Gwasanaeth ardderchog wedi’i ymroi i ateb anghenion llywodraethwyr sydd yn angenrheidiol i gyflawni eu dyletswyddau yn effeithiol. Gwasanaeth gwybodus yn seiliedig ar flynyddoedd o brofiad, mynediad i gyngor cyfreithiol os yn briodol, mae eu seminarau a’u hyfforddiant yn ardderchog ac yn cael eu gwerthfawrogi gan y rhai sydd wedi defnyddio eu gwasanaethau, Gwerth am arian, ei argymell yn fawr. Dyma’r gwasanaeth mae llywodraethwyr a’u cyrff llywodraethu ei angen. Ei argymell yn fawr iawn.

Cadeirydd Llywodraethwyr, Ysgol Gynradd, Sir y Fflint

Gwasanaeth ardderchog yn darparu gwybodaeth amhrisiadwy i lywodraethwyr ysgolion yng Nghymru.

Clerc i Lywodraethwyr, Ysgol Uwchradd, Ynys Môn

Ar gael bob amser neu yn ffonio’n ôl. Gwasanaeth defnyddiol iawn.

Cadeirydd Llywodraethwyr, Ysgol Gynradd, Caerdydd

Cychwyn Gwych! Mae ein haelodaeth o GCS wedi bod yn ddefnyddiol eleni. Edrych ymlaen i weld y gwasanaeth yn tyfu. Edrych ymlaen at ragor o ddigwyddiadau neu gyfleoedd dysgu efallai i lywodraethwyr y flwyddyn nesaf hefyd.

Swyddog ALl, Gwynedd

Yn wasanaeth defnyddiol iawn i droi ato pan ddim yn siwr o’r rheoliadau Llywodraethu neu i atgyfnerthu barn.

Di-enw

Adnoddau a chyfleoedd rhagorol i lywodraethwyr.

Cysylltwch â ni

01443 844532 / 029 2075 3685 [email protected]
Sam MacNamara – 07943 887275 / Jane Morris – 07957 969708