Newyddion

Diweddariadau Cenedaethol - Mawrth 2024

Ymgynghoriadau
Dweud eich dweud ar hyn sy’n digwydd mewn addysg

GWAHODDIAD GRŵP FFOCWS I RIANT LYWODRAETHWYR

Mae Llywodraeth Cymru yn cynnal ymgynghoriad ffurfiol ar ganllawiau ynghylch y cwricwlwm i ddysgwyr 14 i 16 oed yng Nghymru. Fel rhan o hyn, comisiynwyd Miller Research i gysylltu â rhieni a gofalwyr, gan gynnwys rhiant lywodraethwyr. Fel rhiant/gofalwr dysgwr yng Nghymru, mae eich barn ar y mater hwn yn hanfodol a bydd yn helpu i lunio fersiwn derfynol y canllawiau bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi yn ystod tymor yr haf hwn.

Rydym yn eich gwahodd i rannu eich barn mewn un o ddau grŵp ffocws ar-lein a gynhelir ar yr adegau canlynol:
– Dydd Mercher, 10fed Ebrill o 6-7yp
– Dydd Mercher, 17eg Ebrill o 6-7yp

Fel arwydd o werthfawrogiad am eich amser, byddwch yn cael iawndal o £35 am eich cyfranogiad.

Bydd y grwpiau ffocws yn cael eu cynnal yn Saesneg, ond os hoffech rannu eich barn drwy gyfrwng y Gymraeg, byddem yn hapus i ymgysylltu â chi mewn cyfweliad ar-lein ar wahân neu drafodaeth grŵp bach.

Os hoffech gymryd rhan mewn grŵp ffocws, anfonwch e-bost at [email protected] gan nodi’r dyddiad/amser ac iaith sydd orau gennych.

Dysgu 14 i 16 o dan Gwricwlwm i Gymru
Ymgynghori ar ganllawiau drafft:
– Esbonio’r gofynion cyfreithiol ar gyfer cwricwlwm ysgol ar gyfer dysgwyr 14 i 16 oed o dan Gwricwlwm i Gymru.
– Cefnogi ysgolion i ddylunio cynnig cwricwlwm sy’n bodloni’r gofynion hynny.
– Blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer dysgu ac addysgu ym mlwyddyn 10 ac 11.

Cyflwynwch eich sylwadau erbyn 8 May 2024

Diweddariadau Cenedaethol

Arferion ac egwyddorion i ysgolion ar gyfer defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol.
Mae’r canllawiau hyn wedi cael eu cynhyrchu gan Lywodraeth Cymru, gyda chefnogaeth UK Safer Internet Centre. Mae’r canllawiau’n rhai anstatudol a dylid eu defnyddio fel canllaw i gefnogi ysgolion a lleoliadau addysg i ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol yn ddiogel ac yn gyfrifol.

Pecyn cymorth addysg ariannol.
Mae’r pecyn cymorth hwn yn cynnig ystyriaethau o sut i gefnogi dyluniad a sicrwydd ansawdd cynnig pwrpasol o dan arweiniad llythrennedd ariannol fel rhan o gwricwlwm eich ysgol. Nid yw’n rhestr wirio ar gyfer cynllunio’r cwricwlwm ond mae’n darparu awgrymiadau defnyddiol i ystyried taith eich cwricwlwm a’r hyn y gallech chi ei wneud nesaf. Nod y pecyn cymorth hwn yw helpu i atgyfnerthu diwylliant a dyhead Cwricwlwm i Gymru i gynnwys rhieni, gofalwyr a’r gymuned ehangach.

Wedi’i ddiweddaru Chwefror 2024Gweithredu Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018: canllaw i ymarferwyr.
Canllaw i ymarferwyr ar weithredu’r Ddeddf o 1 Medi 2021 i Awst 2025.

Sylwadau

Ychwanegu sylw

Cysylltwch â ni

01443 844532 / 029 2075 3685 [email protected]
Sam MacNamara – 07943 887275 / Jane Morris – 07957 969708