Newyddion

Arolygiad Estyn - Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd

Llongyfarchiadau mawr i’r pennaeth, y staff a’r llywodraethwyr yn Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd, Pen-y-Bont, am eu Harolwg Estyn diweddar a gafodd ddim argymhellion.

Mae’r corff llywodraethu yn cynnig cefnogaeth gref i holl waith yr ysgol. Dan arweiniad cadarn y cadeirydd a’r is-gadeirydd, mae’r corff llywodraethu yn wybodus iawn am gryfderau a meysydd gwella’r ysgol. Mae ganddynt afael da ar y prif flaenoriaethau ac maent yn chwarae rhan allweddol wrth osod cyfeiriad strategol yr ysgol. Drwyddi draw, maent yn gweithredu’n effeithiol yn eu rôl fel cyfaill beirniadol gan herio uwch arweinwyr ac arweinwyr canol ar faterion pwysig pan fydd yn briodol. Maent yn gweithredu eu rôl statudol i hyrwyddo bwyta ac yfed yn iach yn effeithiol.

Dyma’r ddolen i’r adroddiad cyfan.

Cysylltwch â ni

01443 844532 / 029 2075 3685 [email protected]
Sam MacNamara – 07943 887275 / Jane Morris – 07957 969708