Efwletin GCS


I ble mae’r wythnosau diwethaf wedi hedfan. Wrth i’r hanner tymor ddod yn nes, rydym yn cydnabod yr heriau anodd iawn y mae ysgolion wedi eu wynebu. Rydym wedi siarad gyda sawl pennaeth y tymor yma a’r un prif thema sydd yn amlwg ydy eu hymrwymiad a’u hymroddiad llwyr i sicrhau bod disgyblion a staff yn iawn ac yn ddiogel yn y cyfnod ansicr yma. Diolch i chi am bopeth rydych chi’n ei wneud – rydym yn gwybod ei fod yn heriol ac rydym yn gobeithio y byddwch yn cael egwyl haeddiannol dros yr hanner tymor. Cofiwch ein bod yma i helpu ac i wrando.
Mae nifer ohonoch wedi gofyn am gynnwys yr adroddiad blynyddol felly rydym wedi cynnwys y ddolen i’r gofynion diweddaraf, yn ogystal â gwybodaeth am ein pecyn cymorth hunanwerthuso. Efallai yr hoffai eich corff llywodraethu ystyried cynnal hunanadolygiad hefyd ar effeithlonrwydd gwaith y corff llywodraethu – cysylltwch gyda ni os gwelwch yn dda am ragor o wybodaeth yn [email protected]
Os oes gennych lywodraethwr newydd yn ymuno gyda chi yn fuan – edrychwch ar ein rhestr wirio ar gyfer llywodraethwyr newydd a rhoi cychwyn da iddyn nhw! Fe fydd diddordeb gennych chi hefyd mewn darllen darn gan Dr Siân Lloyd-Williams ar ymholi gan athrawon. Mae Siân yn llywodraethwr hefyd ac mae wedi darparu gwybodaeth ddiddorol am bwysigrwydd ymholi gan athrawon a sut i gefnogi athrawon yn hyn o beth. Ydy aelodau eich staff addysgu yn yr ysgol yn cynnal unrhyw weithgaredd ymholi proffesiynol ac ydy eich corff llywodraethu yn cael clywed am hynny ac am ei effaith?
Yn olaf, gobeithio y cewch egwyl da ac amser i ymlacio a gobeithio hefyd y bydd y tywydd yn braf! Cymrwch ofal a chadwch olwg allan am ein hadnawdd nesaf ar ddefnyddio sgiliau yn effeithiol!
Dymuniadau gorau
Jane & Sam



Hoffem wybod eich barn am yr hyn sy’n werth chweil i chi am rôl y llywodraethwr – e-bostiwch ni os gwelwch yn dda fel y gallwn bostio sylwadau yn ein hadran dod yn llywodraethwr. Diolch


Adroddiad Blynyddol Llywodraethwyr i Rieni

Mae’n amser o’r flwyddyn lle mae Adroddiad Blynyddol y Llywodraethwyr i Rieni fel arfer yn cael ei ddrafftio a’i ddosbarthu. Mae’n ofyniad statudol i gyhoeddi’r adroddiad, ond mae Llywodraeth Cymru unwaith eto wedi llacio’r gofynion adrodd ar gyfer y flwyddyn academaidd 2020-2021. Does dim rhaid i chi adrodd ar:
– Perfformiad Ysgol
– Presenoldeb
– Targedau


ARP-cy


Hunan-werthuso

Mae’n bwysig bod corff llywodraethu yn adolygu ei effeithlonrwydd ei hun o dro i dro. Mae hyn yn golygu bod y corff llywodraethu yn treulio amser o fusnes arferol i edrych ar beth sydd yn gweithio’n dda a pha feysydd datblygu sydd eu hangen. Fe fydd corff llywodraethu llwyddiannus wedi gosod arferion hunanadolygu yn eu ffrydiau gwaith blynyddol ac fe fydd ganddyn nhw gynllun gweithredu clir i’w helpu i wella. Ond dydy hunanwerthuso ddim yn stopio. Mae angen i’r corff llywodraethu gymryd rhan llawn yn rhaglen hunanwerthuso’r ysgol. Mae ein pecyn cymorth yn seiliedig ar y meysydd allweddol ym mhroses arolygu Estyn. Gall pob corff llywodraethu weithio drwy’r ddogfen yn systematig neu dargedu’r adran sydd yn cyd-daro gyda chynllun datblygu’r ysgol. Dewiswch chi!

Mae’r clip fideo yma yn rhoi blas i chi o sut mae’r e-becyn cymorth yn gweithio fel bod modd i bob llywodraethwr gymryd rhan.

Mae ymarferion hunanwerthuso yn hanfodol er mwyn bod yn wirioneddol effeithiol ac maen nhw’n allweddol i sicrhau gwelliant ysgol. Ystyriwch ymuno.

Mae gweld sut mae cyrff llywodraethu eraill wedi defnyddio’r templed hunanadolygu bob amser yn ffordd dda o benderyfnu ar y ffordd orau ymlaen i’ch corff llywodraethu. Dyma ddau astudiaeth achos sydd yn dangos manteision hunanwerthuso:
John Brown, Federasiwn yr Enfys, Caerdydd – Strategaethau ar gyfer gwella’r Corff Llywodraethu
Allan Tait, Ysgol Gynradd Pontnewyd, Torfaen


center>

Rhestrau gwirio llywodraethwyr newydd

Oes gennych chi lywodraethwyr newydd ar eich corff llywodraethu? Mae gennym restr wirio ddefnyddiol i sicrhau eu bod yn derbyn popeth sydd ei angen arnynt er mwyn cychwyn ar eu taith llywodraethu ysgol.


Ymholi gan athrawon – COA ar gyfer llywodraethwyr mewn ysgolion

The most successful education system…invest in developing their teachers as reflective, accomplished and enquiring professionals who have the capacity to engage fully with the complexities of education and to be key actors in shaping and leading educational change.
Donaldson, 2011

Mae’r erthygl hwn yn cynnwys rhestr o GOA (FAQs) sy’n cynnig canllawiau pellach ar gyfer llywodraethwyr ar gefnogi prosiectau ymholi mewn ysgolion. Yn ogystal, darperir dolenni ar gyfer adnoddau defnyddiol ac dolenni i esiamplau o ymholiadau gan ysgolion ac athrawon.

Beth yw ymholiad gan athro / athrawes?
Gall ymholi athrawon (fe’i cyfeirir ato hefyd fel ymchwil gweithredol, Ymchwil agos i ymarfer, Ymholiad proffesiynol) helpu ysgolion ac athrawon i ddeall a gwella eu harfer eu hunain. Gall hefyd ganiatáu i ysgolion ac athrawon gyfrannu at wybodaeth ehangach yn y gymuned addysgu. Mae nodweddion allweddol ymchwil ‘agos at ymarfer’ yn cynnwys:
– Cynnal ymholiad sy’n deillio o – ac yn aml yn cael ei adnabod yn ystod – ymarfer addysgol.
– Defnyddio mewnwelediad a phryderon proffesiynol ymarferwyr addysg eu hunain (weithiau mewn partneriaeth ag ymarferwyr ymchwil).
– Meddwl yn feirniadol am arfer a goblygiadau’r ymchwil / ymholiad.
– Cymhwyso mewnwelediadau sy’n deillio o’r cylch ymchwil neu ymholi yn ôl i ymarfer.

Pam fod datblygu ymholiadau athrawon yn bwysig?
Mae gan ymchwil addysgol, mewn sawl ffurf, ran allweddol i’w chwarae wrth lywio polisi ac arfer addysgol. Mae’r ddogfen Addysg yng Nghymru: Ein Cenhadaeth Genedlaethol (Llywodraeth Cymru, 2018: 11) a’r strategaeth sy’n cyd-fynd a’r weledigaeth yma Y Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Ymchwil ac Ymholiad Addysgol yn nodi eu bod am … sicrhau bod polisi ac arferion addysgol yng Nghymru yn cael eu llywio gan y dystiolaeth ymchwil orau sydd ar gael a chan ymholiad disgybledig a gynhelir gan weithwyr addysg proffesiynol. Mae ei amcanion yn cynnwys datblygu proffesiwn sy’n seiliedig ar dystiolaeth yng Nghymru lle mae arweinwyr, athrawon, staff cymorth, staff awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol, AEM a gweithwyr addysg proffesiynol eraill yn defnyddio tystiolaeth ymchwil o ansawdd uchel ac yn cael cyfleoedd i gymryd rhan mewn ymholiad proffesiynol.

Pa gefnogaeth sydd ei hangen ar ysgolion i ymgysylltu ag ymholiad athrawon?
Mae’n anorfod y bydd ysgolion gwahanol wedi cael profiadau amrywiol o ymholi athrawon ac mi fydd rhai mwy hyderus nag eraill. Mae cefnogaeth ac arweiniad effeithiol yn allweddol os yw ysgolion ac athrawon unigol yn yr ysgol i fod yn llwyddiannus wrth ddatblygu cymuned ymholi gref yn eu hysgol. Dylid annog ysgolion i gysylltu â’u ALlau lleol, consortia / partneriaethau rhanbarthol, ysgolion clwstwr neu hyd yn oed SAU i gael arweiniad a chefnogaeth bellach wrth ddatblygu ymholiad yn eu hysgol.

Ble alla i ddod o hyd i enghreifftiau o brosiectau ymholi ysgolion / athrawon?
Mae’r Prosiect Ymholi Proffesiynol Cenedlaethol (PYPC) yn rhoi mynediad i athrawon at restr lawn o ymholiadau ysgolion a ariennir gan y prosiect. Mae hyn yn cynnwys crynodebau defnyddiol o brosiectau ymholi a gwblhawyd gan ysgolion. Mae’n debyg y bydd rhai ymholiadau a welir ar safle PYPC wedi’u cwblhau gan ysgolion yn eu hardal hwy a byddai ysgolion yn elwa o drafod eu profiadau gydag ysgolion cyfagos.

Cwestiynau i’w hystyried wrth gynnal ymholiad:
– Beth yw’r broblem / pa gwestiwn yr hoffech chi ei ateb?
– A allwch chi grynhoi eich ffocws mewn cwestiwn?
– Beth mae’r llenyddiaeth yn ei ddweud wrthych chi?
– Pwy sy’n mynd i gymryd rhan?
– Pryd fyddwch chi’n cynnal eich ymholiad?
– Pwy fydd yn ymwneud â chynnal yr ymchwiliad a chasglu’r data?
– Beth a faint o ddata y byddwch chi’n ei gasglu?
– Pa ddull (iau) y byddwch chi’n eu defnyddio i gasglu’ch data?
– Ydych chi wedi meddwl am foeseg ymchwil?

Mae adnoddau pellach ar ymholiadau gan athro/athrawes i’w cael yn y dolenni isod:
BERA (2018). Close-to-practice research project
Canllawiau Moesegol BERA
Arweiniad ar ymchwil gan EEF
Adnoddau ymchwil ar gyfer ymarferwyr gan yr CGA (EWC)
Adnoddau NFER ‘ar sut i gynnal ymholiadau

Sylwadau i gloi
Mae gan ymholi gan athrawon (fel gydag unrhyw ymchwil a wnaed) ei heriau ac mae’n anochel bod perygl y bydd ysgolion, athrawon a hyd yn oed llywodraethwyr yn gweld ymholiad fel gweithgaredd ychwanegol sy’n ychwanegu at lwythi gwaith cynyddol hy mi fydd angen dyrannu amser penodol i ddechrau er mwyn codi ymwybyddiaeth ymysg staff o ymholiadau athrawon ac er mwyn cynnal hyfforddiant penodol ar gynnal ymholiad.

Fodd bynnag, mae sawl budd i ddatblygu cymuned ymholi yn eich ysgol gan ei fod yn caniatáu ichi gofnodi a chefnogi’r ffyrdd arloesol a chreadigol y mae athrawon yn ymgysylltu ac yn annog pob dysgwr. Mae defnyddio methodolegau amrywiol hefyd yn caniatáu i ymholiadau ystyried safbwyntiau pob rhanddeiliad, gan gynnwys llais y dysgwr.

Nid oes disgwyl y bydd athrawon yn mabwysiadu ac yn datblygu i fod arbenigwyr ymholi dros nos ond bydd sicrhau eich bod yn dechrau trafod ymholiad yn eich ysgol nid yn unig yn cynorthwyo LlC i gyflawni eu nod yn y pen draw o greu a ‘Phroffesiwn ar sail Tystiolaeth’ ond mi fydd hefyd yn cyfoethogi profiadau pob dysgwr.

Dr Siân Lloyd-Williams
Llywodraethwr mewn ysgol
Darlithydd mewn Addysg a Chyfarwyddwr Ymchwil, Ysgol Addysg, Prifysgol Aberystwyth
Cyd-lynu Prosiect Cenedlaethol ar Ymholi Proffesiynol Llywodraeth Cymru ym Mhrifysgol Aberystwyth
Aelod o weithgor Llywodraeth Cymru sydd yn edrych i ddatblygu ‘Proffesiwn ar Sail Tystiolaeth’ o fewn y sector Addysg.



Rights, Respect, Equality:
Support for School Leaders and Governors

In September 2020, Welsh Government launched Rights, respect, equality: statutory guidance to assist school governors, staff and relevant professionals working within a school environment in developing and implementing anti-bullying policies and strategies.

The Welsh Government is funding Kidscape to provide online training to governors and staff to make sure that all learners feel safe, secure and are supported to achieve their full potential.

The Rights, Respect, Equality School Support Webinar is available free of charge for governors and school staff in Wales who are leading on developing and updating the anti-bullying policy and strategy. All school leads who sign up for the webinar will be provided with an audit tool and action plan to help develop and update your anti-bullying policy and strategy over the next 3-12 months. The webinar will take you through the action plan step by step, with the opportunity for Q and A.

The webinars all takes place at 12.30pm – 2.30pm. The dates of the webinars are:
– 26th November 2021
– 10th December 2021 (Welsh medium)
– 28th January 2022
– 11th February 2022
– 25th March 2022
– 29th April 2022
– 20th May 2022 (Welsh medium)
– 24th June 2022
– 15th July 2022

To book your place, click here.


Diweddariadau Cenedaethol

Newyddion pwysig o Gymwysterau Cymru
Mae ein penderfyniadau yn adrodd ar ein hymgynghoriad Y Dewis Cywir i Cymru
Cymwys ar gyfer y Dyfodol: Y dewis cywir i Gymru. Dadansoddiad o’r ymatebion i’r ymgynghoriad
Cymwys ar gyfer y Dyfodol: Y dewis cywir i Gymru. Adroddiad cryno ar yr ymgynghoriad
Cymwys ar gyfer y dyfodol: Y Dewis Cywir i Gymru. Fersiwn sy’n addas ar gyfer pobl ifanc

Adroddiad thematig EstynAddysgu hanes Cymru gan gynnwys hanes, hunaniaeth a diwylliant Pobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig

Llywodraeth CymruPresenoldeb mewn ysgolion (coronafeirws): canllawiau i ysgolion

Llywodraeth CymruPlant a phobl ifanc sy’n wynebu mwy o risg glinigol ac oedolion sy’n eithriadol o agored i niwed yn glinigol: canllawiau ar gyfer lleoliadau addysg

Llywodraeth CymruGweithrediadau ysgol: coronafeirws (wedi’i ddiweddaru 12 Hydref 2021)

Mae ardal Cadw’n ddiogel ar-lein Hwb wedi cael ei hadnewyddu’n i’ch helpu i ddod o hyd i’r canllawiau, adnoddau a digwyddiadau diweddaraf yn ymwneud â diogelwch ar-lein, seiberddiogelwch a diogelu data. Cliciwch yma i edrych.

Cyngor y Gweithlu AddysgCyhoeddi Adroddiad Cenedlaethol o’r Gweithle Addysg 2021. Allan nawr ac yn werth ei ddarllen.





© Gwasanaethau Governors Cymru

Sylwadau

Ychwanegu sylw

Cysylltwch â ni

01443 844532 / 029 2075 3685 [email protected]
Sam MacNamara – 07943 887275 / Jane Morris – 07957 969708