Pam ddim dechrau'r flwyddyn o'r newydd gydag adolygiad Corff Llywodraethu?

Mae Gwasanaethau Governors Cymru yn credu bod adolygiad o sut mae eich corff llywodraethu yn gweithio ac yn ymddwyn yn hanfodol i welliant ac effeithlonrwydd corff llywodraethu. Gall treulio amser i fyfyrio ar y gwaith rydych chi’n ei wneud fel corff llywodraethu fod o gymorth i ddarparu ffocws ar lle mae’r corff llywodraethu yn mynd. Ai dyna lle mae’r corff llywodraethu eisiau bod, sut mae’r corff llywodraethu yn cyrraedd yno? Yn y pendraw mae’n helpu’r corff llywodraethu i asesu ei gryfderau a’i wendidau ac mae’n galluogi llywodraethwyr i drafod a chytuno ar y ffordd orau ymlaen i wella’r gwaith y mae’n ei gyflawni. Fe fydd pob corff llywodraethu ar gam gwahanol o’r ysgol gwelliant ysgol ond gall rhannu meddyliau a syniadau ar yr hyn sydd yn gweithio’n dda a beth y gellir ei wella, penderfynu ar feysydd datblygu, fod yn rhywbeth i’w groesawu ac yn ddull arloesol o ddatblygu gwaith tîm, perchnogaeth a gweledigaeth ar y cyd.

Cynorthwyodd Gwasanaethau Governors Cymru un ysgol yn ddiweddar i asesu gwaith y corff llywodraethu. Roedd yn fraint cael y cais i gynnal adolygiad corff llywodraethu llawn mewn ysgol uwchradd yng Ngogledd Cymru. Roedd yr adolygiad yn cynnwys sawl agwedd:

  • adolygiad pen desg o’r dystiolaeth a gyflwynwyd gan y corff llywodraethu i asesu cydymffurfiaeth gyda’r fframwaith llywodraethiant deddfwriaethol a rheoleiddiol;
  • anfonwyd holiadur at bob aelod o’r corff llywodraethu er mwyn dadansoddi barn unigol ar sut roedd y corff llywodraethu yn gweithio;
  • cyfweliadau gyda’r pennaeth, y cadeirydd a llywodraethwyr newydd a phrofiadol, o amrediad o gategorïau llywodraethwyr;
  • arsylwi ar gyfarfod o’r corff llywodraethu;
  • cynhyrchwyd adroddiad; a
  • chyflwynwyd canfyddiadau allweddol i’r corff llywodraethu.

Bu’n bleser dysgu rhagor am y daith roedd y corff llywodraethu arni, clywed am sawl maes arloesol o waith oedd yn dangos arfer da ac effeithiol, ac wrth gwrs sgwrsio gyda nifer o lywodraethwyr ymroddedig oedd yn teimlo’n angerddol dros sicrhau bod eu hysgol ar y llwybr cywir ac yn mynd o nerth i nerth. Bu’n daith anodd a chaled iawn i‘r corff llywodraethu dros y blynyddoedd diwethaf a thra bod sawl maes ar gyfer datblygu wedi eu nodi, roedd yna barodrwydd i dderbyn newid ac i asesu’r hyn y gellid ei weithredu yn gyflym ac yn hawdd, a’r meysydd lle roedd angen cynllun ar eu cyfer i gyflawni’r nodau tymor hirach. Mae rhai sylwadau gan y Cadeirydd i’w gweld isod:

Os ydych fel corff llywodraethu o ddifrif ynghylch hunanasesu a gwellaint parhaus yna rwyf yn cefnogi Adolygiad Llywodraethiant yn llwyr. Gall gadarnhau meysydd gwelliant yr ydych eisoes yn ymwybodol ohonyn nhw ond fe ddaw â doethineb newydd hefyd i feysydd nad oeddech erioed wedi meddwl amdanyn nhw. Fel Cadeirydd rwyf yn gwybod bod angen imi groesawu manteision cael ffocws allanol a dysgu oddi wrth y cyrff llywodraethu hynny lle mae hunanasesu yn rhan o’u DNA.

Os hoffai eich corff llywodraethu gynnal hunanadolygiad, mae croeso i chi gael sgwrs gyda ni – gallwn ei deilwra i anghenion y corff llywodraethu – gallai fod yn gyffyrddiad ysgafn neu yn ddadansoddiad dyfnach o sut mae’r corff llywodraethu yn gweithio. Pa bynnag un y byddwch yn ei ddewis, mae’n brofiad cadarnhaol iawn ac fe fydd yn gymorth i lywio’r corff llywodraethu i’r cyfeiriad cywir ar gyfer y dyfodol.

Ffôn: 01443 844532

Sylwadau

Ychwanegu sylw

Cysylltwch â ni

01443 844532 / 029 2075 3685 [email protected]
Sam MacNamara – 07943 887275 / Jane Morris – 07957 969708