Cyflwyniad i Lywodraethu Ysgolion yng Nghymru — taith y llywodraethwr
Gynhyrchwyd mewn partneriaeth â Governors for Schools a Phrifysgol Caerdydd, lluniwyd y modiwl hwn yn benodol ar gyfer pobl sydd â diddordeb mewn bod yn llywodraethwr a phobl sydd wedi dechrau yn ddiweddar ar eu taith fel llywodraethwr ysgol mewn ysgol a gynhelir yng Nghymru.
Mae corff llywodraethu ardderchog yn hanfodol i lwyddiant ysgol – pam?
mae llywodraethwyr yn gyfrifol am benodi’r pennaeth a’r dirprwy bennaeth
mae penderfyniadau llywodraethwyr yn effeithio’n uniongyrchol ar addysg a llesiant disgyblion
gall llywodraethwyr wneud gwahaniaeth gwirioneddol i wella safonau drwy’r ysgol gyfan
Mae llywodraethwr yn rywun sydd:
yn cael eu penodi neu eu hethol am dymor o bedair blynedd;
yn ymrwymo diddordeb, brwdfrydedd ac amser i fod yn llywodraethwr;
yn gallu mynychu o leiaf un cyfarfod o’r corff llywodraethu yn ystod pob tymor ysgol ac efallai y gofynnir iddynt fynychu cyfarfodydd pwyllgor (mae’r rhan fwyaf o’r cyfarfodydd fel arfer yn digwydd yn hwyr yn y prynhawn neu yn ystod y nosweithiau);
yn cyfarwyddo eu hunain â gwaith yr ysgol, gan gynnwys ymweld â’r ysgol, ac yn cadw’i fyny gyda chynnydd a gwaith yr ysgol;
gweithio fel tîm, penderfynu ar bethau ar y cyd a rhannu cyfrifoldebau am y penderfyniadau a wnânt;
canolbwyntio eu cyfraniad i lywodraethu penderfyniadau’r corff ar beth fydd er y budd gorau i ddisgyblion yr ysgol, gan helpu pob disgybl i ddatblygu eu potensial llawn;
yn cefnogi’r ysgol ond hefyd yn herio ac yn gofyn cwestiynau am sut mae’r ysgol yn gweithio a’r safonau mae’n ei gyflawni, o gofio cyfrifoldeb y corff llywodraethu i hyrwyddo safonau uchel o gyflawniad addysgol;
yn barod i ddysgu ac i fynychu cyrsiau hyfforddi (gan gynnwys anwythiad a hyfforddiant data) a drefnir gan yr ALl, sy’n rhad ac am ddim, ac a fydd yn gwella sgiliau ac yn cyfrannu at ddatblygiad personol.
Beth rydym yn gobeithio y byddwch yn ei gael o fod yn llywodraethwr – beth yw’r manteision?
chwarae rhan real iawn o ran sicrhau bod y disgyblion yn yr ysgol yn cael yr addysg orau bosibl;
boddhad o godi safonau;
sicrhau gwerth am arian ar gyfer yr ysgol;
rhoi rhywbeth yn ôl i’r gymuned;
ymdeimlad o bwrpas a chyflawniad;
hyfforddiant a chymorth er mwyn helpu i chi gyflawni eich dyletswyddau a’ch cyfrifoldebau;
sgiliau newydd a allai fod yn ddefnyddiol mewn mannau eraill – gwaith tîm, cynllunio ariannol a strategol, recriwtio a sgiliau cyfweld – ac mai hynny dim ond i ddechrau!
Dyma Jenny o Ysgol Ioan y Bedyddiwr VA, Sir y Fflint
ar beth mae’n olygu iddi hi i fod yn llywodraethwr yng Nghymru.
Cryfder y corff llywodraethu yw ei allu i ddenu a dibynnu ar aelodau o amrywiaeth eang o gefndiroedd, rhannu dyletswyddau ymhlith ei aelodau, a’r gallu i wneud penderfyniadau fel grŵp.
Nid oes un llywodraethwr sy’n gyfrifol am y corff llywodraethu, nid hyd yn oed cadeirydd y llywodraethwyr.
Mae’r llywodraethwyr i gyd yn rhannu’r cyfrifoldeb o wneud y corff llywodraethu yn effeithiol ac effeithlon drwy osod cylch gwaith y corff a’i bwyllgorau, bod yn wybodus a mynychu cyfarfodydd.
Gwasanaeth Recriwtio Llywodraethwyr Am Ddim
Mae Boards for Education (Governors for Schools gynt) yn elusen addysg sy’n cryfhau llywodraethu ar draws ysgolion, colegau ac elusennau addysg trwy eu cysylltu â gwirfoddolwyr medrus. Maent yn recriwtio, yn lleoli ac yn cefnogi llywodraethwyr ac ymddiriedolwyr, gan helpu sefydliadau addysg i elwa o ystod ehangach o arbenigedd, safbwyntiau a chysylltiadau cymunedol. Gan weithio gyda busnesau, prifysgolion, sefydliadau’r sector gwirfoddol a grwpiau cymunedol, maent yn annog pobl o bob cefndir i ddefnyddio eu sgiliau a’u profiad i gefnogi addysg. Trwy lywodraethu cryf, mae gwirfoddolwyr yn helpu ysgolion a cholegau i ddarparu’r canlyniadau gorau posibl i ddysgwyr a’r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu.
Ar gyfer pwy mae’r gwasanaeth?
Rydym yn cefnogi pob math o ysgolion a ariennir gan y wladwriaeth i recriwtio llywodraethwyr. Darperir ein gwasanaeth paru yn rhad ac am ddim. Os oes gennych swydd wag ar eich corff llywodraethu, gallwch ei chofrestru gyda ni a byddwn yn gweithio i’ch cysylltu â gwirfoddolwyr addas.
Rydym yn nodi ymgeiswyr addas – Wrth i wirfoddolwyr gofrestru gyda ni, rydym yn eu paru â swyddi gwag sydd wedi’u cofrestru ar y system.
Cyflwyniad a chyfatebiaeth – Os oes gan y ddwy ochr ddiddordeb, byddwn yn hwyluso cyflwyniad ac yn darparu gwybodaeth am sgiliau, profiad a chymhelliant y gwirfoddolwr i ddod yn llywodraethwr.
Dod i adnabod ein gilydd – Gallwch drefnu i gyfarfod â’r gwirfoddolwr, naill ai ar-lein neu yn bersonol, i drafod y rôl a phenderfynu a fyddent yn addas ar gyfer eich bwrdd.
Penodi – Os penodir y gwirfoddolwr, gallwch ddilyn eich prosesau recriwtio a phenodi arferol. Byddwn yn parhau i ddarparu arweiniad a chefnogaeth i’w helpu i lwyddo yn eu rôl.
Llywodraethu amrywiol, byrddau cryfach
Mae byrddau effeithiol yn elwa o ystod eang o brofiadau, sgiliau a safbwyntiau. Rydym wedi ymrwymo i ehangu cyfranogiad mewn llywodraethu a helpu byrddau i adlewyrchu’r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu. Drwy ddod â gwirfoddolwyr o wahanol gefndiroedd proffesiynol, grwpiau oedran a chymunedau ynghyd, rydym yn helpu ysgolion, ymddiriedolaethau a cholegau i adeiladu llywodraethu cryfach a mwy effeithiol.
Dysgwch fwy
Am ragor o wybodaeth am ein gwasanaethau, cysylltwch â: Loren Nadin – [email protected]
Fel arall, ewch i www.boardsforeducation.org.uk i ddysgu mwy am sut rydym yn cefnogi llywodraethu ar draws addysg.
Cymryd y cam nesaf
Os oes gennych ddiddordeb mewn bod yn llywodraethwr ysgol, neu i ddarganfod rhagor:
Cysylltwch gyda Gwasanaethau Llywodraethwyr Cymru am ragor o wybodaeth drwy [email protected]
Siaradwch gyda rhywun sydd yn llywodraethwr
Cysylltwch gyda phennaeth neu gadeirydd y llywodraethwyr yn eich ysgol leol