Defnyddio profiadau ac arbenigedd llywodraethwyr i fynd i’r afael â materion ysgol

Trafodaeth – Ysgol Gynradd


Beth oedd y mater yr ymdriniwyd ag ef?
Sut mae’r ysgol yn ymateb i’r nifer uchel o ddisgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY). Mae’r staff yn ystyriol iawn, yn llawn cydymdeimlad ac yn gweithio’n galed iawn i ddarparu i bawb. Fodd bynnag, nid yw’r hyfforddiant a roddwyd wedi mynd i’r afael â’r mater mewn gwirionedd. Teimlir, yn gyffredinol, na ellir mynd i’r afael â’r rhan fwyaf o anghenion ychwanegol mewn ystafell ddosbarth brysur. Mae’r athrawon yn ymwybodol, hyd yn oed ar ôl addasu gwaith a gwneud ymdrech eithriadol i ysgogi a chynorthwyo, nad ydynt yn gallu lliniaru’r problemau llythrennedd, rhifedd ac ymddygiad yn iawn. Nid yw’r sefyllfa ariannol yn caniatáu ar gyfer staff cymorth dysgu ychwanegol.

Rwy’n ei chael hi’n anodd argyhoeddi unrhyw un bod dulliau llai confensiynol eraill, a ddatblygwyd o waith ymchwil mwy diweddar, y gellir eu defnyddio i helpu disgyblion ADY i ddysgu’n fwy effeithiol. Rwy’n pryderu y bydd unrhyw sylw neu awgrym yn cael ei ddehongli fel beirniadaeth.


Beth ddigwyddodd?
Rwy’n ceisio ffurfio perthnasoedd â staff yn araf a allai fy ngalluogi i gynnig awgrymiadau ynghylch sut gellir mynd i’r afael â materion.

Yn ystod cyfarfodydd llywodraethwyr â’r Cydlynydd ADY, rwyf wedi ceisio cadarnhau, trwy gwestiynau penodol (yn unol â chyngor y Gwasanaeth Cymorth Llywodraethwyr), sefyllfa’r ysgol o ran niferoedd, asesu ac ymyriadau, ond ni roddwyd atebion i mi hyd yma.


Pa wersi a ddysgwyd?
Efallai os oedd ysgolion yn gwybod mwy am gymwysterau, meysydd arbenigedd a phrofiad llywodraethwyr, gallem gael ein defnyddio’n fwy buddiol. Rwy’n credu y byddai’r rhan fwyaf ohonom yn fodlon rhannu ein gwybodaeth a’n profiad heb geisio elw ariannol. Mae hynny’n ystyriaeth o bwys yn y cyfnod hwn o gyni.


Sylwebaeth
Mae’n arfer da i gorff llywodraethu gynnal archwiliad sgiliau a gwybodaeth sydd gan aelodau’r corff llywodraethu eisoes. Mae hefyd yn galluogi’r corff llywodraethu i lenwi unrhyw fylchau ac addasu rhaglenni hyfforddiant yn y dyfodol i anghenion llywodraethwyr unigol. Mae gan Gwasanaethau Governors Cymru Services archwiliad sgiliau y gall llywodraethwyr unigol ei gwblhau yn ogystal â thempled i gasglu gwybodaeth i roi trosolwg o sgiliau llywodraethwyr.

Mae’r astudiaeth achos hon yn canolbwyntio ar gefnogi gofynion Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) yn yr ysgol a’r ffordd orau o gael cymorth i helpu staff yr ysgol. Bydd gan yr ysgol bolisi i’w dilyn ar y cyd â’r Cod Ymarfer AAA / ADY.
Anghenion addysgol arbennig: cod ymarfer
Y Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r rheoliadau

Bydd gan lawer o lywodraethwyr gyfrifoldeb penodol am feysydd gwaith allweddol. Un ffordd o wneud hyn yw trwy lywodraethwyr cyswllt sy’n gysylltiedig â maes cwricwlwm, grŵp blwyddyn neu faes penodol. Mae hyn yn helpu i rannu’r llwyth gwaith ac yn cynorthwyo llywodraethwyr i gyflawni eu rôl strategol. Bydd pob ysgol yn penodi llywodraethwr neu bwyllgor i oruchwylio trefniadau a darpariaeth yr ysgol ar gyfer bodloni anghenion dysgu ychwanegol yn benodol. Mae’n bwysig bod â chylch gorchwyl ar gyfer y rôl hon fel bod pawb yn deall y disgwyliadau o’r cychwyn cyntaf. Cyfeiriwch ar unrhyw wybodaeth gan eich Awdurdod Lleol, ynghyd â chyhoeddiad llywodraethwr cyswllt ar gyfer AAA/ADY Gwasanaethau Llywodraethwyr Cymru.

Byddai llywodraethwr sydd ag arbenigedd helaeth fel hyn yn amhrisiadwy i ysgol. Byddai’n syniad da trefnu cyfarfod gyda staff ac asiantaethau perthnasol, fel y bo’n briodol, i gadarnhau paramedrau sut y gellir defnyddio arbenigedd y llywodraethwr yn effeithiol, yn ogystal ag ystyried sut gall pawb gydweithio er pennaf les disgyblion.

Bydd trafod y cwestiynau a gwybodaeth a fydd yn angenrheidiol yn allweddol i lwyddiant, oll yn unol â pholisi’r ysgol ac ymweliadau gan y llywodraethwr. Yna, gall y llywodraethwr cyswllt gyflwyno adroddiad i’r corff llywodraethu fel diweddariad.

Rhoddir yma rai enghreifftiau o gwestiynau defnyddiol (mae rhai yn gyffredinol) y gellir eu gofyn.

Noder bod cyflwyniad y Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a Thribiwnlys Addysg (Cymru) wedi dechrau ym mis Medi 2021. I ddisgyblion sydd yn cael eu hasesu am y tro cyntaf o Fedi 2021 rhaid i ysgolion ddilyn y broses a nodir yn y Cod Ymarfer ADY. Mae cyfnod pontio o dair blynedd (tan haf 2025) pryd y caiff datganiadau AAA presennol, cynlluniau addysg unigol, a chynlluniau dysgu a sgiliau eu trosi i gynlluniau datblygu unigol (CDU). Caiff hyn ei wneud drwy ddull graddol a gorfodol ar sail carfannau penodol sy’n seiliedig ar oedran. Yn ystod y cyfnod hwn, bydd y system ADY yn gweithredu’n gyfochrog â’r system AAA. Mae rhagor o wybodaeth ar gael isod:
Rhaglen trawsnewid anghenion dysgu ychwanegol


Myfyrdodau…
A yw’ch corff llywodraethu’n cynnal archwiliad o sgiliau a phrofiadau llywodraethwyr? A yw hyn yn cael ei rannu â staff yr ysgol?
A ydych chi neu unrhyw lywodraethwyr rydych chi’n eu hadnabod wedi teimlo’n rhwystredig nad yw’r ysgol yn defnyddio’ch gwybodaeth a’ch profiad proffesiynol?


Dweud eich dweud…
A ydych chi wedi cael profiadau tebyg i’r rhain?
Beth yw’ch barn am y sefyllfa a ddisgrifiwyd?


Cysylltwch â ni

01443 844532 / 029 2075 3685 [email protected]
Sam MacNamara – 07943 887275 / Jane Morris – 07957 969708