Ymdopi â salwch tymor hir pennaeth

Trafodaeth – Ysgol Gynradd


Beth oedd y mater yr ymdriniwyd ag ef?
Aeth y pennaeth ar gyfnod absenoldeb tymor hir oherwydd salwch ac roedd awyrgylch cyffredinol o amheuaeth ac anhapusrwydd ymhlith y staff ar yr adeg hon. Ymdriniodd cadeirydd y llywodraethwyr â’r materion dydd i ddydd yn bennaf. Dim ond ers rhyw 6 mis yr oeddwn i wedi bod yn llywodraethwr, ac nid oeddwn yn deall yn iawn beth oedd yn digwydd. Fel y digwyddodd, roedd yn fater a oedd wedi bod yn datblygu ers peth amser.


Beth ddigwyddodd?
Penodwyd pennaeth dros dro.


Pa wersi a ddysgwyd?
Helpodd y pennaeth dros dro i adfer cydbwysedd a pharhaodd i weithredu’r cynllun datblygu arweinyddiaeth. Roedd y pennaeth a oedd yn absennol yn gallu gwella a dychwelyd i’r gwaith.


Sylwebaeth
A wnaeth y Cadeirydd gyfarfod â’r staff i esbonio’r sefyllfa pan aeth y pennaeth ar gyfnod absenoldeb oherwydd salwch gyntaf? Gallai hyn fod wedi mynd i’r afael ag unrhyw anniddigrwydd ymhlith y grŵp staff.

Dyma ychydig o gwestiynau i’w gofyn: Pam oedd y cadeirydd yn ymdrin â materion dydd i ddydd yn yr ysgol? Neu ai canfyddiad y llywodraethwr newydd yn unig oedd hyn? Mae gan y pennaeth a’r cadeirydd berthynas benodol iawn sydd wedi’i seilio ar ymddiriedaeth a pharch at ei rolau ei gilydd. O gofio hyn, byddai’r cadeirydd wedi bod yn gyfrifol am reoli absenoldeb oherwydd salwch y pennaeth, gyda chyngor gan adran Adnoddau Dynol yr Awdurdod Lleol. Dylai pob ysgol fod â pholisi rheoli absenoldeb oherwydd salwch ar waith, y mae’n rhaid ei ddilyn. Ceir rhagor o wybodaeth ddefnyddiol yma.

Os bydd y pennaeth yn absennol am gyfnod hir, mae’n rhaid i gyrff llywodraethu benodi pennaeth dros dro am y cyfnod hwnnw i sicrhau bod yr ysgol yn cael ei rheoli’n briodol. Dyna beth ddigwyddodd yn yr achos hwn. Dylai’r broses hon gael ei chynnal cyn gynted â phosibl. Weithiau, gwneir y penodiad hwn yn fewnol. Os nad oes unrhyw un addas yn yr ysgol, gall y corff llywodraethu gysylltu â’r Awdurdod Lleol i benodi rhywun allanol. Gallai hwn fod yn ddirprwy bennaeth effeithiol mewn ysgol arall. Mae’r rheoliadau sy’n llywodraethu’r broses o benodi pennaeth dros dro ar gael yma (rheoliad 10(2)-10(7).

Os oedd y “sefyllfa wedi bod yn datblygu dros amser”, a oedd yr absenoldeb oherwydd salwch yn gysylltiedig â straen? Mae’r corff llywodraethu’n gyfrifol am ‘sicrhau bod gan y pennaeth lwyth gwaith rhesymol i gefnogi cydbwysedd rhesymol rhwng bywyd a gwaith, o ystyried iechyd a lles’ a ‘darparu amser penodol i benaethiaid sy’n cydnabod eu cyfrifoldebau arweinyddiaeth sylweddol i’r ysgol’. A oedd y Cadeirydd / corff llywodraethu’n monitro hyn? Ffynonellau:
Rheoliadau Staffio Ysgolion a Gynhelir (Cymru) (Diwygio) 2009
Dogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol (Cymru)

Byddai’r Cadeirydd yn gyfrifol am sicrhau bod gan y pennaeth dros dro y cymorth sy’n angenrheidiol i gyflawni’r rôl yn y cyfamser, a’i fod yn deall rôl y corff llywodraethu wrth gefnogi a herio’r ysgol. Dylai’r Cadeirydd a’r pennaeth dros dro gyfarfod yn rheolaidd.

Mae canllaw Gwasanaethau Llywodraethwyr Cymru ar Rôl y Cadeirydd yn cynnwys gwybodaeth am y berthynas bwysig hon.

Ceisiwch gyngor gan yr Awdurdod Lleol neu’r Awdurdod Esgobaethol, fel y bo’n briodol, o’r cychwyn cyntaf neu cysylltwch â Gwasanaethau Llywodraethwyr Cymru ar [email protected]


Myfyrdodau…
A fu’n rhaid i’ch ysgol ymdrin â salwch tymor hir uwch aelod o staff? Sut gwnaeth yr ysgol ymdopi â hyn?
Beth fyddai’r heriau pe byddai angen i ysgol benodi pennaeth dros dro?


Dweud eich dweud…
A ydych chi wedi cael profiadau tebyg i’r rhain?
Beth yw’ch barn am y sefyllfa a ddisgrifiwyd?


Cysylltwch â ni

01443 844532 / 029 2075 3685 [email protected]
Sam MacNamara – 07943 887275 / Jane Morris – 07957 969708