Beth sy’n digwydd pan fydd sefydliadau allanol yn anghytuno ar safle’r ysgol

Trafodaeth – Ysgol Gynradd


Beth oedd y mater yr ymdriniwyd ag ef?
Bu anghydfod yn yr ysgol rhwng dau gorff sy’n darparu gofal y tu allan i oriau ysgol i’r plant. Mae’r ddau yn rhannu’r un safle. Nid yw rheolwyr y cyrff hyn yn cydweithredu. Mae hyn wedi arwain at anghydfod parhaus yn ymwneud â materion cyfreithiol y mae’r Awdurdod Lleol wedi gorfod ymdrin ag ef.

Cymhlethwyd y mater oherwydd bod llywodraethwr yn rheoli un o’r sefydliadau, gan arwain at honiadau ynghylch gwrthdaro buddiannau.


Beth ddigwyddodd?
Cawsom gymorth gan yr Awdurdod Lleol i ymchwilio i gŵyn ynglŷn â thensiwn rhwng y ddau sefydliad. Mae’r mater gydag adran gyfreithiol yr Awdurdod Lleol ar hyn o bryd Roedd un o’r llywodraethwyr yn gallu cynorthwyo, gan ddefnyddio ei gefndir undeb llafur.


Pa wersi a ddysgwyd?
Nid ydym wedi llwyddo i ddatrys y mater hyd yma ac mae yn nwylo’r awdurdod lleol. Mae materion yn ymwneud â gwrthdaro buddiannau yn broblemus.


Sylwebaeth
Dyma sefyllfa ddiddorol. Byddai’n ddefnyddiol gwybod mwy am y cefndir a’r amgylchiadau ynglŷn â sut y gwnaed y trefniadau cychwynnol. Tybir mai ysgol gymunedol ydyw, ond nid yw’r trefniadau cyfreithiol a chytundebol ar gyfer y ddau sefydliad yn glir. A ydynt yn endidau ar wahân i’r ysgol ac a yw’r ddau weithrediad yn hurio safle’r ysgol? Os felly, a oes gan yr ysgol ‘bolisi defnyddio safle’?

Wedi dweud hynny, mae’n drueni pan fydd sefydliadau’n anghytuno. Gall hyn gael effaith gynyddol ar y gwaith y mae pobl yn ei wneud, sef darparu gofal y tu allan i’r ysgol i blant yn yr achos hwn. Mae’r materion cyfreithiol yn parhau, yn amlwg, a gobeithir y bydd y sefyllfa’n cael ei datrys yn gyflym.

Mae’n rhaid i lywodraethwyr bob amser gwblhau datganiad buddiannau busnes bob blwyddyn, a hynny fel arfer yng nghyfarfod cyntaf y corff llywodraethu yn nhymor yr Hydref. Mae gan Wasanaethau Llywodraethwyr Cymru wybodaeth am hyn, yn ogystal â ffurflen dempled. Efallai y bydd gan yr Awdurdod Lleol ffurflenni busnes y gall llywodraethwyr eu defnyddio hefyd.

Mae’n rhaid i unrhyw lywodraethwr a allai elwa o ganlyniad penderfyniad ddatgan buddiant mewn unrhyw eitem benodol ar yr agenda a’i esgusodi ei hun o’r cyfarfod, gan beidio â chymryd unrhyw ran yn y drafodaeth na’r bleidlais.

Mae’n arfer da i Gadeirydd y llywodraethwyr wirio ar ddechrau pob cyfarfod nad oes gwrthdaro buddiannau yn ymwneud ag unrhyw un o eitemau’r agenda.

Os oes unrhyw amheuaeth ynglŷn â ph’un a ddylai llywodraethwr esgusodi ei hun ai peidio, bydd angen i’r corff llywodraethu wneud y penderfyniad.

Mae gwybodaeth fanwl am y cyfyngiadau ar unigolion sy’n cymryd rhan mewn trafodion corff llywodraethu a phwyllgorau ar gael ym Mhennod 4 y Canllaw i’r Gyfraith i Lywodraethwyr Ysgolion.

Dylech wastad wirio’r sefyllfa os ydych, fel llywodraethwr, yn ansicr. Mae angen bod yn ddiduedd ac yn wrthrychol bob amser.

Mae’r astudiaeth achos hefyd yn dangos bod cwyn wedi cael ei gwneud a bod ymchwiliad wedi cael ei gynnal. Ond nid yw natur y gŵyn yn eglur h.y. a yw’r gŵyn yn ymwneud â llywodraethwr a chanddo wrthdaro canfyddedig? Mae rhagor o wybodaeth am brosesau cwyno ar gael yma. Cyfeiriwch at yr adran ar amgylchiadau arbennig ar dudalen 22 adran 4.8 – cwyn am lywodraethwr.

Mae gwybodaeth am ddefnyddio safle’r ysgol ar gael ym Mhennod 26 y Canllaw i’r Gyfraith i Lywodraethwyr Ysgolion.


Myfyrdodau…
Beth all eich corff llywodraethu ei wneud i atal problemau annisgwyl yn ymwneud â gwrthdaro buddiannau?
A yw’ch ysgol erioed wedi wynebu problemau sy’n deillio o densiwn rhwng sefydliadau allanol sy’n darparu gwasanaethau ar safle’r ysgol? Os felly, beth wnaethoch chi i ddatrys y rhain?


Dweud eich dweud…
A ydych chi wedi cael profiadau tebyg i’r rhain?
Beth yw’ch barn am y sefyllfa a ddisgrifiwyd?


Cysylltwch â ni

01443 844532 / 029 2075 3685 [email protected]
Sam MacNamara – 07943 887275 / Jane Morris – 07957 969708