Adolygu a newid y dystiolaeth y mae ei hangen mewn adolygiad o berfformiad pennaeth

Trafodaeth – Ysgol Uwchradd


Beth oedd y mater yr ymdriniwyd ag ef?
Diwygiodd y corff llywodraethu y dystiolaeth sy’n ofynnol mewn adolygiad o berfformiad pennaeth, a gosododd dargedau newydd. Roedd hyn yn anodd ei wneud mewn un cyfarfod gan fod cymaint o waith papur. Mae’r ffaith bod y canllawiau’n cael eu diwygio bob blwyddyn yn broblemus hefyd gan nad oes cyfle i gymharu un flwyddyn â’r nesaf.


Beth ddigwyddodd?
Ceisiwyd cymorth gan y Consortiwm. Fe’i rhoddwyd, ond roedd yn anodd trefnu cyfarfod y gallai’r holl bartïon ei fynychu ac a allai ganiatáu digon o amser i ddarllen a thrafod.


Pa wersi a ddysgwyd?
Gosodwyd targedau ar gyfer pennaeth newydd, ond nid oedd unrhyw un yn fodlon ar ba mor hir y cymerodd i drefnu a datrys y mater. Nid yw’n ddigonol ystyried hyn unwaith y flwyddyn ychwaith. Roeddem yn teimlo y dylai adolygiad gael ei gynnal hanner ffordd drwy’r flwyddyn i wirio cynnydd neu ddiffyg cynnydd, a’r rhesymau pam.


Sylwebaeth
Bydd gan bob ysgol Bolisi Rheoli Perfformiad / Adolygu Datblygiad Proffesiynol sy’n amlinellu’r paramedrau ar gyfer proses rheoli perfformiad / adolygu datblygiad proffesiynol staff addysgu a’r pennaeth.

Mae rheoli perfformiad / adolygu datblygiad proffesiynol yn rhoi cyfle i staff addysgu’r ysgol fyfyrio ar eu hymarfer a’i asesu yn erbyn y safonau proffesiynol yn ystod y flwyddyn.

Bydd amcanion yn cael eu gosod a fydd yn cyfrannu at flaenoriaethau datblygu’r ysgol a chynllunio strategol. Dylai’r corff llywodraethu sicrhau bod rheoli perfformiad / adolygu datblygiad proffesiynol yn cael ei amseru i gyd-fynd â blwyddyn gynllunio’r ysgol lle y bo’n bosibl. Ni ddylai fod yn broses feichus. Bydd ymgorffori hyn yn amserlen waith yr ysgol yn galluogi aelodau’r panel i wybod ymhell o flaen llaw pryd y bydd y broses yn cael ei chynnal. Proses gefnogol ydyw, yn anad dim. Mae rhagor o wybodaeth am sut i gynnal proses rheoli perfformiad y pennaeth ar gael yma.

Mae rheoli perfformiad / adolygu datblygiad proffesiynol yn broses barhaus sy’n cynnwys cynllunio, monitro ac adolygu. Mae’r panel yn cynnwys o leiaf 2 lywodraethwr a hyd at 2 gynrychiolydd o’r Awdurdod Lleol, a fydd yn cytuno ar yr amcanion, ynghyd â’r pennaeth. Fodd bynnag, bydd y drafodaeth gyffredinol yn cael ei llywio gan gynnydd yr ysgol, cyrhaeddiad blaenorol a’r cyfraniad y mae’r pennaeth yn ei wneud ac wedi’i wneud tuag at sicrhau gwelliant yn yr ysgol. Yn ogystal, bydd y drafodaeth yn canolbwyntio ar y datblygiad a’r cymorth sy’n angenrheidiol, a’r cyfan yn ystyried cydbwysedd bywyd a gwaith y pennaeth.

Pan fydd blaenoriaethau datblygu wedi’u gosod, dylid cytuno ar sut y bydd perfformiad y pennaeth yn cael ei fonitro drwy gydol y flwyddyn. Gall gweithdrefnau monitro gynnwys amrywiaeth o ddulliau, gan gynnwys cofnod adolygu a datblygu ymarfer y pennaeth; y cynllun datblygu ysgol; gwybodaeth am berfformiad yr ysgol ac ati, yn ogystal â thrafodaethau anffurfiol yn ystod y flwyddyn.

Mae’n sicr yn arfer da i waith papur a data perthnasol gael eu hanfon mewn da bryd cyn y cyfarfod. Bydd hyn yn golygu y gellir ystyried y wybodaeth yn ofalus ac yn rhoi canolbwynt clir i’r drafodaeth, a bydd yn helpu i hwyluso’r cyfarfod.

Mae Gwasanaethau Llywodraethwyr Cymru wedi llunio cylch gorchwyl ar gyfer gwerthuswyr.


Myfyrdodau…
Sut mae’ch corff llywodraethu’n mynd ati i adolygu a gosod targedau perfformiad ar gyfer y pennaeth?
A ydych chi’n credu ei bod yn syniad da bod cynnydd yn erbyn targedau yn cael ei adolygu, a bod targedau’n cael eu diwygio o bosibl, hanner ffordd drwy’r flwyddyn ysgol?


Dweud eich dweud…
A ydych chi wedi cael profiadau tebyg i’r rhain?
Beth yw’ch barn am y sefyllfa a ddisgrifiwyd?


Sylwadau

Ychwanegu sylw

Cysylltwch â ni

01443 844532 / 029 2075 3685 [email protected]
Sam MacNamara – 07943 887275 / Jane Morris – 07957 969708