Y Tanysgrifiad GCS
Beth am ymuno nawr i gael mynediad i amrediad o adnoddau a fydd yn:
- helpu i gynyddu effeithlonrwydd cyrff llywodraethu a chlercod
- rhoi’r wybodaeth / newyddion diweddaraf i chi a sicrhau eich bod yn cydymffurfio
- arbed arian ac amser i chi
Dyma fideo fer amdanon ni a’r hyn rydych chi’n colli allan arno!
.
Mae tanysgrifwyr yn gwerthfawrogi en gwasanaeth
Blynyddoedd tanysgrifio
- Medi – Awst
- Ionawr – Rhagfyr
- Ebrill – Mawrth
Costau tansygrifio
- Ysgolion gyda 50 disgybl neu lai – £126
- Ysgolion uwchradd (yn cynnwys ysgolion pob oedran) – £319
- Pob ysgol arall – £192
Mae’r holl gostau yn destun TAW
Amdanom ni
Mae Gwasanaethau Governors Cymru Cyf yn wasanaeth cefnogi cenedlaethol, sydd yn darparu amrediad o gefnogaeth i ysbrydoli a hyrwyddo llywodraethiant a chlercio effeithiol, arweiniad, mewnwelediad ac atebion i gwestiynau ar lywodraethiant ysgolion, ac mae’n cynnwys mynediad i gyfoeth o wybodaeth ar rolau a chyfrifoldebau llywodraethwyr ysgolion a chlercod.
Llinell Gefnogi
Mynediad i’n llinell gefnogi gyfrinachol, sydd yn darparu cyngor, cefnogaeth ac arweiniad annibynnol ar llywodraethiant ysgolion a chlercio. Mae’r llinell gefnogi yn wasanaeth cyfeillgar, yn broffesiynol ac mae ar gael rhwng 9.00am – 5.00pm Llun i Gwener a rhwng 5.00pm – 7.00pm Llun i Iau yn ystod amser tymor. Pa mor gymhleth neu syml ydy eich ymholiad – rydym yma i’ch helpu i gyflawni eich rolau yn effeithiol ac yn effeithlon. Gall rhai agweddau o gyngor cyfreithiol fod yn destun tâl ychwanegol.
Llinell Gefnogi ac e-bost: 01443 844532 [email protected]
E-fwletinau
Fe fydd ein e-fwletinau rheolaidd yn rhoi’r diweddaraf i chi am newyddion addysg pwysig fel diweddariadau polisi, ymgynghoriadau a chanllawiau perthnasol newydd. Yn ogystal ag e-fwletinau, fe fyddwch yn derbyn gwybodaeth am unrhyw faterion perthasol brys wrth iddyn nhw godi.
Edrychwch ar ebulletin enghreifftiol yma.
Cyngor ac arweiniad
Mae mynediad neilltuol i’r adran cyngor ac arweiniad ar
y wefan sydd yn cynnwys adnoddau ymarferol y gellir eu lawrlwytho yn cynnwys:
- Llawlyfr i Lywodraethwyr Ysgolion yng Nghymru
- Hunanwerthusiad cyrff llywodraethu
- Canllawiau i lywodraethwyr
- Adnoddau
- Cwestiynau Cyffredin/cyngor
- Astudiaethau achos
- Ardal Clercod
- Sgyrsiau
Mae rhai o’n hadnoddau newydd yn cynnwys:
- Sut i gael effaith
- Canllaw i Lywodraethwyr ar Reoli Cyfrinachedd
- Sut i ddelio’n effeithiol gyda chwynion?
- Sut i ddefnyddio sgiliau’n effeithiol yn y corff llywodraethu
- Sut i sicrhau bod eich corff llywodraethu yn datblygu arferion ardderchog
- Pecyn Cymorth Llesiant
- Rôl y Corff Llywodraethu mewn Gwelliant Ysgol
- Sut i herio’n effeithiol – cynghorion ymarferol
E-ddysgu
Mynediad i fodiwlau e-Ddysgu dynodedig ar amrywiaeth o bynciau i helpu llywodraethwyr i fod yn fwy effeithiol yn eu rôl.
Lle/oedd blaenoriaeth mewn sesiynau briffio
Manylion i’w cyhoeddi yn ystod y flwyddyn.
Cyfeiriwch at ein hadran digwyddiadau.
Gwasanaethau ychwanegol
Fe fydd costau am wasanaethau ychwanegol yn seiliedig ar natur y gefnogaeth/gwasanaeth a roddir ac unrhyw gostau teithio a cynhaliaeth fel bo’n briodol.
- Cefnogaeth pwrpasol i gyrff llywodraethu;
- Adolygad o effeithlonrwydd eich corff llywodraethu
- Recriwtio llywodraethwyr;
- Amrywiaeth o gyrsiau hyfforddi (manylion pellach ar gael dim ond gofyn am hynny).
- Gwobrau i gyrff llywodraethu a chlercod.
Fel y gwelwch rydym yn cynnig amrediad helaeth
o dyddiau i’ch helpu gyda’ch gwaith fel llywodraethwr.
Mae Gwasanaethau Governors Cymru yn cynnig tawelwch meddwl bod gan gyrff llywodraethu a gweithwyr addysg proffesiynol fynediad i’r wybodaeth y maen nhw ei hangen i gyflawni eu rolau yn effeithiol, cael yr wybodaeth ddiweddaraf am y datblygiadau newydd a chynyddu eu hyder yn eu rôl –
does yna’r un cwestiwn yn rhy fawr nac yn rhy fach!
Y broses danysgrifio
Ar ôl derbyn y ffurflen danysgrifio –
- Ychwanegir cyfeiriadau e-bost y Pennaeth, Cadeirydd a’r Clerc ar restr bostio GCS, yn hytrach na chyfeiriadau’r corff llywodraethu llawn. Mae hyn yn golygu nad oes angen i chi ddiweddaru eich rhestr aelodau llywodraethwyr gyda GCS bob tro y mae newid i’r aelodaeth, ac felly’n lleddfu’r llwyth gwaith.
- Anfonir yr anfoneb am y tanysgrifiad at y Pennaeth, gan ddefnyddio’r cyfeiriad e-bost a roddwyd ar y ffurflen danysgrifio.
- Anfonir telerau ac amodau’r gwasanaeth ar wahân i’r rhai a restrir ar eich ffurflen danysgrifio a dylid eu rhannu gyda’ch corff llywodraethu. Fe ddylai aelodau’r corff llywodraethu fod yn ymwybodol o delerau’r gwasanaeth.
- Efallai y byddwch yn derbyn gwybodaeth gan GCS cyn i chi dalu, ond ni fyddwch o angenrhaid wedi derbyn eich manylion mewngofnodi. Cadwch yr e-byst yma er gwybodaeth.
- Unwaith y bydd taliad wedi’i dderbyn, anfonir yr e-bost croeso a’r manylion mewngofnodi ar gyfer y wefan at y rhai a restrir ar y ffurflen danysgrifio.
- Fe ddylid anfon unrhyw e-fwletinau a hysbysiadau y byddwch yn eu derbyn gan GCS ymlaen at weddill aelodau’r corff llywodraethu.
- Mae gan pob aelod o’ch corff llywodraethu fynediad i’r gwasanaeth fel rhan o’r tanysgifiad, yn cynnwys y llinell gefnogi gyfrinachol.