Bwyta’n iach mewn ysgolion
Mae Llywodraeth Cymru eisiau eich barn ar gynigion sy’n ymwneud â bwyd a diod mewn ysgolion cynradd a gynhelir yng Nghymru. Maent hefyd yn galw am dystiolaeth ar y bwyd a ddarperir mewn ysgolion uwchradd.
Cyflwynwch eich sylwadau erbyn 29 Gorffennaf 2025
Canllawiau gwrthfwlio Hawliau, parch, cydraddoldeb
Mae Llywodraeth Cymru eisiau eich barn ar gynigion ynghylch y canllawiau statudol drafft ar wrth-fwlio, sydd wedi’u llunio er mwyn:
– cefnogi ysgolion i weithio tuag at feithrin cydberthnasau cadarnhaol, llawn parch ymhlith plant a phobl ifanc
– cryfhau’r cyfarwyddyd mewn perthynas â bwlio ar sail rhagfarn a hil
– ystyried yr effaith y gall bwlio ei chael ar iechyd meddwl a lles dysgwr
– nodi sut y dylai ysgolion weithio mewn partneriaeth ag eraill, gan gynnwys y GIG a sefydliadau’r trydydd sector
– anfon neges glir bod bwlio yn annerbyniol ac na fydd yn cael ei oddef.
Cyflwynwch eich sylwadau erbyn 31 Gorffennaf 2025
Rheoliadau Cyllido Ysgolion, Datganiadau Cyllideb a Datganiadau Alldro (Cymru) 2026
Mae Llywodraeth Cymru yn ystyried newidiadau posibl i nifer o Reoliadau mewn perthynas â chyllido ysgolion, datganiadau cyllideb ysgolion a datganiadau alldro. Nod y newidiadau yw:
– darparu mwy o hyblygrwydd fel y gall awdurdodau lleol roi cymorth gwell i ysgolion reoli eu cyllidebau
– sicrhau bod y system yn fwy tryloyw, cymaradwy a chyson, fel y gellir cael trafodaethau ar sail gwybodaeth ynghylch cyllidebau ar bob lefel
– Mae’r ymgynghoriad hwn yn casglu barn rhanddeiliaid a fydd yn llywio Rheoliadau newydd. Bydd y rhain yn diwygio ac yn cyfuno Rheoliadau Cyllido Ysgolion (Cymru) 2010, Rheoliadau Addysg (Datganiadau Cyllideb) (Cymru) 2002 a Rheoliadau Addysg (Datganiadau Alldro) (Cymru) 2003 yn un gyfres o Reoliadau.
Cyflwynwch eich sylwadau erbyn 2 Medi 2025
Canllawiau gweithredol ynghylch Teithio gan Ddysgwyr 2025
Mae’r ymgynghoriad hwn yn gofyn am farn ar ail argraffiad drafft y Canllawiau Gweithredol Teithio i Ddysgwyr. Mae’r Canllawiau drafft yn gwneud newidiadau i argraffiad cyntaf y Canllawiau a gyhoeddwyd yn 2014. Mae’r rhan fwyaf o’r diwygiadau hyn yn adlewyrchu newidiadau i ddeddfwriaeth a pholisi sydd wedi digwydd ers i’r Canllawiau ddod i rym neu’n egluro gofynion sy’n ymwneud â deddfwriaeth a oedd ar waith bryd hynny. Y prif nodau wrth adolygu’r canllawiau hyn yw sicrhau bod y canllawiau:
– yn cyd-fynd â, ac yn ymhelaethu ar y datblygiadau deddfwriaethol sydd wedi digwydd ers i’r canllawiau gael eu cyhoeddi’n wreiddiol yn 2014
– darparu eglurder ar ddarpariaeth trafnidiaeth i ddysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol
– cryfhau canllawiau ar Adran 10 (hyrwyddo mynediad at addysg cyfrwng Cymraeg) ac Adran 11 (hyrwyddo teithio cynaliadwy) o’r Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru)
– adlewyrchu rhai o’r arferion da a nodwyd ledled Cymru i annog cydweithio a gweithio mewn partneriaeth rhwng partneriaid cyflawni
Cyflwynwch eich sylwadau erbyn 3 Medi 2025
01443 844532 / 029 2075 3685
[email protected]
Sam MacNamara – 07943 887275 / Jane Morris – 07957 969708