Llywodraethwr Cyswllt Llesiant
Mae Deddf Addysg ac Arolygiadau 2006 yn gosod dysletswydd ar gyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir i hyrwyddo llesiant. Caiff ‘Llesiant’ ei ddiffinio yn y Deddf Plant 2004 fel:
- llesiant corfforol ac iechyd meddwl ac emosiynol;
- amddiffyn rhag niwed ac esgeulustod;
- addysg, hyfforddiant a hamdden;
- y cyfraniad y mae plant yn ei wneud i gymdeithas; a
- llesiant cymdeithasol ac economaidd.
Mae’n ddyletswydd ar y corff llywodraethu hefyd i sicrhau iechyd, diogelwch a llesiant ei gyflogai cyn belled ag sydd yn rhesymol ymarferol.
Gall fod yn ddefnyddiol i’r corff llywodraethu benodi llywodraethwr cyswllt dros lesiant a fydd yn cefnogi’r ysgol ac yn cynorthwyo’r corff llywodraethu i gael gwell dealltwriaeth a gwybodaeth o’r maes yma yn yr ysgol.
Gallai’r rôl gynnwys:
- sicrhau bod gan yr ysgol bolisïau a gweithdrefnau ar gyfer y canlynol:
- hyrwyddo ymddygiad a disgybaleth da ymysg disgyblion (yn cynnwys gwrth fwlio);
- sut y gall disgyblion/staff godi eu pryderon yn yr ysgol;
- amddiffyn plant;
- delio gyda honiadau o gamymddwyn yn erbyn staff, yn cynnwys honiadau amddiffyn plant;
- iechyd a diogelwch;
a bod y rhain yn cael eu hadolygu gan y corff llywodraethu;
- adrodd i’r pwyllgor perthnasol ac/neu i’r corff llywodraethu ar effeithlonrwydd y polisïau a hysbysu’r corff llywodraethu o unrhyw broblemau;
- sicrhau, dan Adran 176 o Ddeddf Addysg 2002, bod y corff llywodraethu yn ymgynghori gyda disgyblion ynghylch materion sydd yn effeithio arnyn nhw;
- sicrhau bod yna amrediad o strategaethau i gynnwys staff mewn prosesau gwneud penderyfniadau yn yr ysgol;
- sicrhau bod gan staff newydd raglen anwytho effeithiol;
- sicrhau bod gan staff y cyfleoedd i ddatblygiad proffesiynol parhaus;
- sicrhau bod gan y staff perthnasol amser dynodedig ar gyfer cynllunio a pharatoi;
- monitro cydbwysedd bywyd gwaith y pennaeth
- helpu i werthuso llesiant yn yr ysgol, fel rhan o broses hunanwerthuso’r corff llywodraethu;
- sicrhau bod gan lywodraethwyr newydd raglan anwytho effeithiol a bod mentor lywodraethwr wedi’u penodi iddyn nhw;
- gweithio i sicrhau bod llywodraethwyr wedi’u ‘cysylltu’ gyda meysydd priodol ac yn cael eu penodi i’r pwyllgorau cywir yn dibynnu ar eu sgiliau a’u profiad;
- helpu i gynnal hunanadolygiad llywodraethwyr a ddylai gynnwys llesiant llywodraethwyr;
- ystyried a thrafod ffyrdd o gefnogi llywodraethwyr a datblygu gwaith tîm da ar draws pob maes llywodraethiant;
- sicrhau bod cyngor yr ysgol wedi cael cyfle i enwebu hyd at ddau aelod o Flynyddoedd 11-13 (cynwysiedig) i fod yn ddisgybl lywodraethwyr cyswllt ar y corff llywodraethu (ysgolion uwchradd);
- mynychu cyfarfodydd y cyngor ysgol (os yn briodol);
- sicrhau bod prydau ysgol yn ateb y safonau bwyta’n iach cyfredol;
- sicrhau bod gan ddisgyblion gydag anghenion dysgu ychwanegol (dysgu / iechyd / AAA/ADY / gofalwyr ifanc) y systemau cefnogi angenrheidiol;
- gweithio gyda’r llywodraethwyr cyswllt ADY / AAA, amddiffyn plant a phresenoldeb disgyblion (lle mae’n briodol);
- sicrhau bod yr ysgol yn cydymffurfio gyda’i dyletswyddau o dan adrannau 43, 44 a 45 o Ddeddf Addysg 1997 (fel y’i diwydigwyd) wrth ddarparu addysg, gwybodaeth a chyngor gyrfa (ysgolion uwchradd);
- hyrwyddo cydlyniant cymunedol ac arfer cynhwysol yn berthynol i gydraddoldeb hil, rhyw ac anabledd;
- cymryd rhan mewn cydgysylltu gyda rhieni a’r gymuned;
- diweddaru gwybodaeth am ganllawiau perthnasol a mynychu hyfforddiant i lywodraethwyr yr Awdurdod Lleol.
© Gwasanaethau Governors Cymru