Ychwanegwyd at yr astudiaethau achos mewn rhai achosion i lenwi bylchau lle y gallai’r llywodraethwr fod wedi tybio gwybodaeth arbenigol neu wneud sylwadau cryno. Fodd bynnag, mae’r holl gynnwys ychwanegol yn gyson â’r testun gwreiddiol. Mae rhai o’r astudiaethau achos yn datgelu rhwystredigaeth llywodraethwyr ac yn esbonio problemau na ddatryswyd, tra bod eraill yn rhoi enghreifftiau o atebion i broblemau yr aethpwyd i’r afael â nhw’n llwyddiannus. Teimlwn ei bod yn bwysig i bob math o astudiaeth achos gael ei gynnwys yn yr adnodd. Gall pob un annog myfyrio ac ysgogi ymgysylltiad â materion llywodraethu pwysig. Mae hefyd yn werthfawr i lywodraethwyr deimlo nad nhw yw’r unig rai sy’n deall materion sy’n gysylltiedig â llywodraethu. Fan leiaf, os yw asiantaethau eraill yn teimlo nad yw rhai llywodraethwyr yn mynd i’r afael â phroblemau yn y ffordd orau, gallai darllen am y profiadau a gyflwynir fan hyn eu hannog i gymryd camau adeiladol pellach. Gall cyrff llywodraethu hefyd ddefnyddio astudiaethau achos i annog trafodaeth, myfyrio a chodi ymwybyddiaeth o faterion. Er enghraifft, gallai Cadeirydd weld bod defnyddio astudiaethau achos dienw yn ffordd lai trafferthus o hwyluso trafodaeth mewn cyfarfod na phetai’n cychwyn y drafodaeth ar sail ei arsylwadau ei hun.
Mae pob cofnod yn cynnwys dau neu dri o gwestiynau a luniwyd i annog myfyrio. Awgrymiadau yw’r cwestiynau ac anogwn gyrff llywodraethu a allai ddymuno defnyddio’r astudiaethau achos i ychwanegu eu cwestiynau eu hunain. Awgrymwn hefyd, lle y bo’n bosibl, y byddai’n beth da i lywodraethwyr edrych ar fwy nag un astudiaeth achos sy’n ymwneud â thema. Mae pob achos wedi’i gysylltu â chyngor arbenigol ar ffurf Sylwebaeth a ddarparwyd gan Wasanaethau Llywodraethwyr Cymru, sef darparwr cymorth a hyfforddiant cenedlaethol annibynnol ar gyfer llywodraethu ysgolion yng Nghymru. Mae’r sylwebaethau’n darparu cyfoeth o wybodaeth a dolenni i ddogfennau polisi ac adnoddau eraill a fydd o gymorth i lywodraethwyr wrth fynd i’r afael â materion sy’n debyg i’r rhai hynny sy’n ymddangos yn yr achosion.
Yn olaf, gofynnwn i lywodraethwyr ymateb i’r astudiaethau achos trwy gofnodi eu hymatebion, eu meddyliau a’u profiadau eu hunain yn gysylltiedig â’r rhai maen nhw wedi darllen amdanynt. Gallant wneud hyn trwy’r trwy gwblhau eu hachos eu hunain ar ein pro fforma ar-lein hawdd ei defnyddio.
01443 844532 / 029 2075 3685
[email protected]
Sam MacNamara – 07943 887275 / Jane Morris – 07957 969708