Rheoli cythrwfl cyfuno ysgolion

Trafodaeth – Ysgol Gynradd


Beth oedd y mater yr ymdriniwyd ag ef?
Mae’n adeg braidd yn gythryblus i ni gan fod yr ysgol newydd gael ei chyfuno ac rydym yn aros i waith adeiladu gael ei gwblhau.


Beth ddigwyddodd?
Mae’r holl staff addysgu wedi cael eu newid o gwmpas ac mae hyn wedi bod yn heriol i bawb, ond mae’n sicr wedi darparu cyfleoedd dysgu a hyfforddi enfawr i’r staff a’r disgyblion, fel ei gilydd. Mae’r materion yn parhau ond mae llawer o frwydrau wedi’u hennill!


Pa wersi a ddysgwyd?
Hoffwn gredu bod y llywodraethwyr wedi bod wrth law i hwyluso a helpu mewn sawl ffordd. Rydym wedi bod yn gweithio gyda’r cyngor, cynllunwyr a chyrff cyllido i alluogi’r broses gyfuno i ddatblygu’n gyflym.


Sylwebaeth
A yw’ch ysgol wedi cael unrhyw waith adeiladu mawr wedi’i wneud yn ddiweddar? Sut rheolodd yr ysgol yr aflonyddwch y gall hyn ei achosi?
Petai eich ysgol yn mynd trwy broses gyfuno, beth fyddai’r heriau mwyaf i’r corff llywodraethu, yn eich barn chi?


Myfyrdodau…
Mae proses benodol i’w dilyn pan fydd unrhyw gynnig trefniadaeth ysgol ar y gweill. Mae’r Cod Trefniadaeth Ysgolion yn rhoi canllawiau manwl y mae’n rhaid i gyrff perthnasol roi ystyriaeth briodol iddynt.

Gall cynigion trefniadaeth ysgolion fod yn gymhleth, a gallant ysgogi emosiynau cryf hefyd. Nid yw’n anghyffredin i ysgolion babanod ac iau cysylltiedig gyfuno. Gall hyn fod yn fodd cadarnhaol o ddatblygu a bwrw ymlaen â threfniadaeth ysgolion, gan arwain at lawer o fuddiannau, ond mae heriau’n sicr o godi hefyd. Mae’n hollbwysig cynnal trafodaethau anffurfiol â’r ddau gorff llywodraethu o’r cychwyn, yn ogystal â chyfnod ymgynghori ffurfiol i glywed ac asesu safbwyntiau pawb. Mae rôl yr Awdurdod Lleol yn allweddol i sicrhau bod yr holl bartïon perthnasol yn cydweithredu’n effeithiol.

Mae’r astudiaeth achos hon yn dangos bod gwaith adeiladu’n cael ei wneud ar yr ysgol sydd newydd ei chyfuno. Ni wyddys y raddfa, ond er gwaethaf y cyffro, bydd rheolaeth brosiect effeithiol ac effeithlon yn hanfodol i sicrhau proses bontio ddidrafferth, ar y cyd â’r Awdurdod Lleol.

Mae ailstrwythuro staff, mynd trwy’r broses o benodi staff ar gyfer yr ysgol newydd, trosglwyddo contractau a threfnu contractau newydd yn orchwyl ynddo’i hun. Yn anffodus, bydd rhai ar eu hennill ac eraill ar eu colled, a gall fod yn adeg anodd iawn i’r staff, yn ogystal â’r llywodraethwyr. Rhoddir cyngor gan yr Awdurdod Lleol i helpu’r corff llywodraethu ag unrhyw faterion staffio.

Bydd corff llywodraethu dros dro wedi cael ei sefydlu i oruchwylio’r broses. Dyma wybodaeth am y broses.

Gweler hefyd y Dogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol (Cymru).


Dweud eich dweud…
A ydych chi wedi cael profiadau tebyg i’r rhain?
Beth yw’ch barn am y sefyllfa a ddisgrifiwyd?


Cysylltwch â ni

01443 844532 / 029 2075 3685 [email protected]
Sam MacNamara – 07943 887275 / Jane Morris – 07957 969708