Hyfforddiant
Dylai pob llywodraethwyr fanteisio ar yr hyfforddiant sydd ar gael trwy Uned Cefnogi Llywodraethwyr yr ALI er mwyn cael y wybodaeth a’r sgiliau angenrheidiol a chyfoes. Yn yr adran hon o’r safle ceir gwybodaeth am rhaglenni hyfforddi Awdurdodau Lleol.
Mae Consortiwm Canolbarth y De yn cydnabod pwysigrwydd llywodraethwyr a’u rôl allweddol yn cefnogi a herio eu hysgolion. Er mwyn eu cefnogi yn y rôl hanfodol hon, mae Consortiwm Canolbarth y De yn cyflwyno sesiynau hyfforddi gorfodol i lywodraethwyr o fis Medi 2016 ymlaen. Yn ogystal â’r sesiynau gorfodol hyn, bydd y Consortiwm hefyd yn cyflwyno nifer o sesiynau sy’n berthnasol i’w gwaith gwella ysgol. Bydd y sesiynau briffio tymhorol a oedd yn ddefnyddiol iawn y llynedd yn parhau eleni, a bydd themâu’r rhain yn canolbwyntio eto ar flaenoriaethau sy’n gysylltiedig â gwella ysgolion a gwaith y Consortiwm.
I gael mynediad at gyrsiau cysylltwch â Swyddog Cefnogi Llywodraethwyr eich Awdurdod Lleol i gael enw defnyddiwr a chyfrinair. Bob tro y byddwch yn mynd i’r safle ar ôl hynny, bydd eich gwaith yn cael ei gofnodi ac ar ôl ei gwblhau bydd tystysgrif yn cael ei chyhoeddi yn eich enw fel prawf o hynny.