Canllaw i Lywodraethwyr ar Atal Bwlio - Canllaw Ymarferol ar gyfer Llywodraethwyr Ysgol

Noder os gwelwch yn dda: Dim ond gyda’r rhai sydd yn gynwysiedig yn eich tanysgrifiad y gellir rhannu’r deunydd yma, yn unol â thelerau ac amodau’r gwasanaeth.


Beth yw bwlio?

Bwlio disgyblion

Bwlio aelodau staff

Canllaw a gwybodaeth


BETH YW BWLIO?

Mae’r rhan fwyaf o bobl yn ystyried bwlio i fod yn ymddygiad sydd yn:-

  • niweidio’r holl unigolion sy’n ymwneud â hynny
  • dod yn ganolbwynt profiad dysgwr o’i fywyd beunyddiol
  • tanseilio diogelwch, lles a chyrhaeddiad
  • niweidio ethos yr ysgol
  • andwyol i’r ysgol a’r gymuned ehangach
  • effeithio ar wyliedyddion a’r sawl sy’n gwybod ei fod yn gyffredin yn eu hysgol.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael o Hawliau, parch, cydraddoldeb: canllawiau ar gyfer ysgolio – Llywodraeth Cymru


Unrhyw ffurf o ymddygiad bwriadol sydd yn gyson yn achosi dychryn a bygythiad
o niwed corfforol neu emosiynol i rywun arall ac sydd yn bwriadu tanseilio hyder,
diogelwch a hunan werth y person sy’n dioddef y bwlio
.
Gwasanaethau Governors Cymru 2018

Bwlio yw ymddygiad ymosodol neu sarhaus gan unrhyw unigolyn neu grŵp, yn aml yn cael ei ailadrodd dros gyfnod o amser, ac yn fwriadol yn brifo neu niweidio.
Taclo Bwlio mewn Ysgolion: Arolwg o ymarfer effeithiol – Estyn 2006

Bwlio yw perthynas o bŵer anghyfartal. TES School Governors Year Book 2006


BWLIO DISGYBLION

(Gall bron unrhyw beth sy’n berthnasol i fwlio disgyblion fod yn berthnasol i fwlio staff)

Mae gan pob disgybl yn yr ysgol yr hawl i ddysgu, yn rhydd rhag ofn bwlio. Mae’n hanfodol felly bod ysgolion yn datblygu diwylliant cryf cynhwysol a pharchus lle nad yw bwlio a rhagfarn yn cael eu derbyn. Yr ethos neu’r diwylliant hwn yw’r sylfaen ar gyfer mynd i’r afael yn effeithiol â bwlio.

Sut mae plant yn canfod bwlio?
  • Rhywun yn bod yn gas wrthoch chi … gwneud i chi deimlo’n wael!
  • cael eich bygwth, baglu ar yr iard
  • cael fy mhwnio os nad ydw i’n rhoi fy arian cinio iddo!
  • galw enwau.

Pam fo disgyblion yn dod i ddioddef bwlio?
Fel arfer, oherwydd bod y bwli yn meddwl eu bod yn “wahanol” mewn rhyw ffordd, er enghraifft:

  • gwahanol yn gorfforol, hynny yw, bach neu denau neu dros bwysau neu, wedi anffurfio mewn rhyw ffordd;
  • yn perthyn i grŵp diwylliannol, hiliol neu ethnig gwahanol i’r mwyafrif;
  • yn meddu ar, neu yn cael ei weld fel rhywun sydd yn meddu ar gyfeiriadedd rhywiol sydd yn wahanol i’r mwyafrif;
  • yn dod o ddosbarth cymdeithasol gwahanol, er enghraifft, cael eu gweld yn posh;
  • bod yn ddeallus neu dalentog neu’n gweithio’n galed yn yr ysgol;
  • gyda chrefydd wahanol;
  • gydag anabledd neu anghenion addysgol arbennig;
  • cael eu gweld mewn unrhyw ffordd yn wan, yn fregus neu ddiamddiffyn.

Sut mae’n teimlo i gael dy fwlio?
  • Mae bwlio yn brifo (yn gorfforol ac/neu yn feddyliol);
  • Mae’n achosi poen, gofid, ofn. Gall arwain at ofni ysgol;
  • Mae’n lleihau hyder;
  • Yn aml gall dioddefwyr bwlio deimlo’n wan ac yn ynysig;
  • Yn aml gall y dioddefwr deimlo mai eu bai nhw, mewn rhyw ffordd, ydy’r hyn sydd wedi digwydd;
  • Os na chaiff bwlio ei atal, gall y dioddefwr deimlo’n ddiymadferth sydd yn gallu bod â chanlyniadau tymor hirach are u hyder, hunan barch ac iechyd emosiynol;
  • Gall gwaith ysgol ddioddef;
  • Gall poen ac ofn bwlio arwain at salwch, gwrthod mynd i’r ysgol neu driwantiaeth;
  • Gall effeithio ar gyfeillgarwch, gweithgareddau cymdeithasol a diddordebau.

Addaswyd o taclo bwlio – canllaw ymarferol ar hawliau cyfreithiol rhieni cyhoeddwyd gan Ganolfan Ymgynghorol Addysg (ACE).

Beth all llywodraethwyr ysgolion ei wneud i leihau bwlio yn eu hysgol?
  • Peidiwch â gwneud y camgymeriad o feddwl nad yw bwlio yn digwydd yn eich ysgol chi; mae’n fwy realistig i gymryd ei fod yn digwydd. Mae bwlio yn digwydd yn gyffredinol, i rhyw raddau, yn y rhan fwyaf o ysgolion.
  • Sicrhewch fod bwlio yn cael ei drafod yn rheolaidd yng nghyfarfodydd y corff llywodraethu.
  • Dyluniwch, mabwysiadwch a gweithredwch bolisi gwrth fwlio ac aflonyddu cynhwysfawr yn gyson gan gydymffurfio gyda deddfwriaeth priodol yn cynnwys, ymysg eraill, Deddf Hawliau Dynol 1998, Deddf Diolgelwch rhag Aflonyddwch 1997 a Deddf Cydraddoldeb 2010. Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn disodli’r ddeddfwriaeth gwahaniaethau blaenorol yn y DU yn ymwneud â rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, crefydd neu gred ac oedran. Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn ymwneud â gwahaniaethu mewn perthynas â nodweddion wedi’u diogelu sef oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw a chyfeiriadedd rhywiol.
  • Sicrhewch bod unrhyw bolisi yn egluro’n glir sut y gall unigolyn wneud cwyn ynghylch bwlio ac/neu aflonyddu, gan nodi’r broses a ddilynnir i ymchwilio i’r gwyn, a nodi’n glir y bydd bwlio ac/neu aflonyddu yn cael ei drin fel trosedd ddisgyblu ac yn disgrifio’r hyfforddiant a’r adnodau sydd ar gael i staff i adnabod ac atal bwlio.
  • Gofynnwch i’r ysgol edrych ar bolisi gwrth fwlio’r ysgol ac os oes angen, awgrymwch ffyrdd o’i wella.
  • Ymgynghorwch gyda rhieni a disgyblion er mwyn cynnwys eu barn a’u profiadau mewn unrhyw bolisïau ymddygiad neu gwrth-fwlio.
  • Trafodwch amrediad o strategaethau y gall yr ysgol eu defnyddio i weithredu ei pholisi gwrth fwlio. Gall cynghori yn yr ysgol, sydd yn annibynnol, yn ddiogel ac yn hygyrch, ffurfio rhan allweddol o ymagwedd ysgol gyfan tuag at atal ac ymateb i fwlio.
  • Gofynnwch am adroddiadau rheolaidd gan y pennaeth am effeithlonrwydd strategaethau gwrth fwlio’r ysgol.
  • Gwnewch yn siŵr bod systemau yn bodoli i adnabod ac adrodd am achosion o fwlio a bod pawb yn yr ysgol yn ymwybodol ohonynt.
  • Sefydlwch adran ar wefan yr ysgol i helpu disgyblion i ddysgu rhagor am seiberfwlio yn cynnwys beth i’w wneud os ydyn nhw neu rhywun y maent yn ei adnabod yn dioddef seiberfwlio.
  • Dechreuwch gynllun lle mae pobl yn ‘creu ffrind’ i rannu eu profiadau o fwlio.


RHESTR WIRIO AR GYFER LLYWODRAETHWYR
Ydych chi’n gallu ateb y cwestiynau hyn ynglŷn â bwlio yn eich ysgol chi?

  1. Oedd gennych chi ran mewn llunio polisi gwrth fwlio eich ysgol … ac ydych chi wedi ei ddarllen yn ddiweddar?

  2. Oes yna ddealltwriaeth gyffredin yn yr ysgol ynglŷn â beth yw ystyr bwlio? Mae gwahanol ffurfiau o fwlio, er enghraifft (nid yw’r rhestr hon yn gyflawn):
    (i) Seiberbwlio
    (ii) Bwlio homoffobig
    (iii) Bwlio o gwmpas hil, diwylliant a chrefydd
    (iv) Bwlio o gwmpas AAA/ADY ac anableddau
    (v) Bwlio rhywiaethol, rhywiol a thrawsffobig

  3. Ydy disgyblion a staff yn cyfranogi’n weithredol at wneud eu hysgol yn lle mwy diogel a beth ellir ei wneud i wneud eu teithiau i’r ysgol ac o’r ysgol yn ddiogel?

  4. Ydy’r ysgol yn ymwybodol o’r hyn sy’n digwydd ar yr iard? Oes goruchwyliaeth ddigonol yn ystod amser egwyl a chinio ac ydy hyfforddwyr wedi eu hyfforddi’n addas ac yn ymwybodol o’r angen i edrych am ymddygiad all awgrymu bod bwlio yn digwydd.

  5. Ydy holl ethos yr ysgol yn creu amgylchedd sy’n helpu dioddefwyr bwlio i ddatguddio eu profiadau a’u galluogi i amddiffyn eu hunain a’u cyfoedion?

  6. Ble mae tystiolaeth o ddigwyddiadau o fwlian, ydi’r corff llywodraethu wedi penderfynu ar y gosb i’r bwli ac ydyn nhw’n cael eu gweithredu’n gyson neu ydi ‘polisi gwrth-fwlio’ cadarn yr ysgol yn ddim ond bygythiad gwag?

  7. Ydy llywodraethwyr yn monitro cwynion rhieni / gofalwyr ynglŷn â bwlio … ac all y corff llywodraethu gyfiawnhau ymatebion yr ysgol mewn Llys?

  8. Ydy’r llywodraethwyr ac aelodau o’r staff wedi mynychu hyfforddiant ar atal bwlio?


BWLIO AELODAU O STAFF

Mae llywodraethwyr ysgolion yn gyfrifol am les eu disgyblion ond mae ganddynt hefyd ddyletswydd gofal cyfreithiol tuag at staff yr ysgol, yn enwedig mewn perthynas ag iechyd all fod mewn perygl oherwydd lefelau eithafol a pharhaus o straen. Un ffynhonnell straen o’r math hwn y mae aelodau o staff yn ei ddioddef yw pan maent yn destun bwlio neu aflonyddu gan gydweithiwr (sydd yn aml, ond nid bob tro, yn cael ei gyflawni gan reolwr/wraig llinell yr aelod o’r staff). Neu, gall aelod o staff ddioddef aflonyddwch a bwlio oherwydd bod rhiant neu rieni yn mynd ar ôl cwyn a wnaethpwyd. Gall aelodau o staff dioddef bwlio ar wahanol ffurfiau gan ddisgyblion hefyd, yn cynnwys seiberfwlio.

Mae unrhyw ymddygiad geiriol, dim yn eiriol neu gorfforol y mae person arall yn ei ystyried yn amharu ar eu hurddas neu yn creu amgylchedd bygythiol, gelyniaethus, diraddiol, bychanus neu ymosodol yn gallu golygu aflonyddwch. Caiff aflonyddu ei reoleiddio yn bennaf trwy gyfrwng deddfwriaeth gwahaniaethu. Gall aflonyddu anghyfreithiol gynnwys ymddygiad o natur rhywiol (aflonyddu rhywiol) neu gall fod yn berthynol i liw, hil, cenedligrwydd, tarddiad ethnig neu genedlaethol, rhyw, cyfeiriadedd rhyw, ail bennu rhywedd, trawsrywedd, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, anabledd neu grefydd / cred, beichiogrwydd neu famolaeth ac oedran. Gall aflonyddu anghyfreithiol esgor ar hawliadau gwahaniaethu.

Ond mae’n bwysig cofio nad yw aflonyddu yn dderbyniol hyd yn oed os nad yw’n syrthio o fewn y categorïau uchod.

Mae Deddf Diogelwch rhag Aflonyddwch 1997 hefyd yn ei gwneud yn anghyfreithlon i ddilyn cwrs ymddygiad lle mae’n wybyddus bod yr ymddygiad, neu lle y dylid gwybod bod yr ymddygiad, yn achosi braw neu drallod i rhywun.

Pa fath o fwlio all ddigwydd yn y gweithle?
Gall enghreifftiau gynnwys (nid yw’r rhestr hon yn gyflawn):

  • Lefel gormesol ac/neu fygythiol o arolygu neu gamddefnydd arall o bŵer neu safle;
  • tanseilio pwrpasol o athro cymwys neu aelod staff cymorth trwy orlwytho gwaith a beirniadaeth gyson;
  • gwahardd neu erledigaet;
  • triniaeth annheg mewn cymhariaeth â chydweithwyr tebyg, er enghraifft cael eich eithrio yn fwriadol o gyfarfodydd ac/neu gyfathrebiadau heb reswm da;
  • rhwystro’r posibilrwydd o ddatblygu trwy atal cyfleoedd hyfforddi neu rwystro dyrchafiad trwy ddulliau eraill (er enghraifft, trwy amodau llym diangen wrth wneud cais am swyddi sydd wedi’u hysbysebu’n fewnol);
  • bygythiadau neu sylwadau diwarant a di-sail yngl?n â sicrwydd swydd;
  • unrhyw ymddygiad all gael ei ystyried gan weithiwr fel cynnig rhywiol;
  • unrhyw ymddygiad arall sy’n cael ei weld gan y dioddefwr fel bwlio neu aflonyddwch.

Cyfrifoldebau cyfreithiol Llywodraethwyr am les gweithwyr.
  • mae Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974 yn gofyn bod cyflogwyr yn sicrhau, cyn belled ag sy’n rhesymol ymarferol, iechyd, diogelwch a lles gweithwyr yn y gwaith. O dan y Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974 mae gan staff ac eraill yr hawl i gael lle a system ddiogel o waith. Mae Rheoliadau Rheolaeth Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1999 yn ei gwneud yn ofynnol i gyflogwyr asesu risg, creu polisïau a gwneud yr holl drefniadau angenrheidiol i reoli iechyd a diogelwch yn y gwaith;
  • mae methiant gan gyflogwr i ymarfer gofal rhesymol yn golygu esgeulustod;
  • gall methiant ar ran cyflogwr i ddiogelu staff rhag bwlio ac aflonyddwch arwain at gynnal hawliadau o ddiswyddiad deongliadol a/neu hawliadau o wahaniaethu ar y seiliau a welir uchod gan dribiwnlys cyflogaeth.
  • gall rhai aelodau unigol o staff mewn rhai achosion fod yn atebol yn gyfreithiol am aflonyddu a gwahaniaethu yn erbyn cydweithwyr neu drydydd partïon a gellir eu gorchymyn i dalu iawndal trwy lys neu dribiwnlys cyflogaeth.
  • fel y gwelwyd yn achos proffil uchel Majrowski v Ymddiriedolaeth GIG Guy’s & St Thomas yn ddiweddar, bellach gellir dwyn hawliadau dan Ddeddf Diogelwch rhag Aflonyddwch 1997 yn erbyn y person sy’n aflonyddu a’r cyflogwr yntau, cyn belled bod yr aflonyddwch dan sylw yn gysylltiedig yn ddigon agos gyda busnes y cyflogwr a bod y gweithiwr yn gwybod, neu fe ddylai fod yn gwybod, bod eu hymddygiad yn golygu aflonyddwch. Felly gellir dal cyflogwr yn atebol yn ddirprwyol o dan y Ddeddf Diogelwch rhag Aflonyddwch 1997 am aflonyddwch a gyflawnwyd gan gyflogai yn ystod cyflogaeth;
  • mae Deddf Trefn Gyhoeddus 1986, a Deddf Diogelu rhag Aflonyddwch 1997 hefyd yn creu troseddau o ran aflonyddwch rhyngwladol ble mae person, gyda’r bwriad o achosi aflonyddwch, ofn neu drallod i berson, yn defnyddio geiriau neu ymddygiad bygythiol, camdriniol neu sarhaus, neu yn dangos unrhyw ysgrifen, arwydd neu gynrychiolaeth weledol arall sydd yn fygythiol, camdriniol neu sarhaus, a thrwy hynny yn achosi aflonyddwch, ofn neu drallod i’r person hwnnw neu i berson arall.

Goblygiadau i gyrff llywodraethol
  • dylai polisi gwrth fwlio ysgol gynnwys bwlio ac aflonyddwch mewn perthynas â staff, neu dylid drafftio polisi ar wahân mewn perthynas ag aflonyddwch o’r math hwn;
  • rhaid i lywodraethwyr sicrhau bod pawb yn yr ysgol yn cael eu trin gydag urddas a pharch;
  • rhaid trin pob digwyddiad o fwlian a gofnodir yn ddifrifol, a phan fo gweithiwr yn yr ysgol yn cwyno am fwlian neu aflonyddwch, rhaid i’r corff llywodraethu ddelio gyda’r gŵyn o dan y drefn addas (bwlio neu ddisgyblu).
  • mae cyrff llywodraethol sy’n methu â sicrhau mesurau i amddiffyn yn erbyn a rheoli aflonyddwch yn y gwaith mewn perygl o unrhyw nifer o hawliadau gwahanol, a heb gyfyngiad ar yr iawndal am aflonyddwch sy’n gysylltiedig â hawliadau gwahaniaethu, mae’r canlyniadau economaidd posib yn eglur.

Beth sy’n rhaid i’r corff llywodraethu ei wneud ynglŷn â bwlio ac aflonyddwch?
  • cytuno ar, a chyhoeddi datganiad eglur o ymroddiad;
  • cydnabod bod bwlio ac aflonyddwch yn faterion ar gyfer pob gweithle gan gynnwys ysgolion (pob ysgol!);
  • mabwysiadu polisi sy’n ei gwneud yn eglur nad yw bwlio ac aflonyddwch i gael eu goddef;
  • ystyried enghreifftiau o ymddygiad a ystyrir yn annerbyniol;
  • ystyried a yw’n briodol cynnal cyfrinachedd ar gyfer unrhyw gwyn;
  • pennu’r camau i’w cymryd gan yr ysgol er mwyn sicrhau bod bwlio ac aflonyddwch yn cael eu rhwystro;
  • egluro sut y mae’r polisi i gael ei weithredu a’i fonitro.

Mae’n werth nodi bod cyflogwyr yn gwella eu siawns o amddiffyn hawliadau aflonyddwch ar sail gwahaniaethu yn llwyddiannus os gallant ddangos eu bod wedi cymryd camau rhesymol i osgoi’r gwahaniaethu. Mae hyn yn mynd yn bellach na llunio polisi ar fwlio ac aflonyddwch (er bod hyn yn rhan allweddol o’r broses) ac mae’n golygu hyfforddi, gweithredu effeithiol o’r polisi ac adolygiad parhaus.

Datgelu
Dylai cyrff llywodraethwyr hefyd weithredu polisi ar wahân ar gyfer chwythu chwistl. Mae canllaw priodol ar gael gan Lywodraeth Cymru ac mae’n cynnwys model o bolisi.


CANLLAW A GWYBODAETH

  • Hawliau, parch, cydraddoldeb: canllawiau ar gyfer ysgolion – Llywodraeth Cymru. Mae’r ddogfen hon yn darparu gwybodaeth ar ddelio gyda bwlio mewn ysgolion. Mae’n cynnig atebion ymarferol uniongyrchol i atal a delio gydag achosion o fwlio ac mae’n rhoi cefndir cyfreithiol ac esboniad o rolau pawb dan sylw. Nodir rhestr o ddeunydd cyfeirio hefyd yn y cylchlythyr canllaw hwn.
  • Cwnsela ar gyfer plant a phobl ifanc.


© Gwasanaethau Governors Cymru

Cyhoeddwyd: 29/08/2018

Sylwadau

Ychwanegu sylw

Cysylltwch â ni

01443 844532 / 029 2075 3685 [email protected]
Sam MacNamara – 07943 887275 / Jane Morris – 07957 969708