Yn gysylltiedig â’r newid hwn, roedd yr Uwch Dîm Arweinyddiaeth dan yr argraff eu bod yn cyflawni i safon uchel ac yn gosod esiampl i ysgolion eraill yn y sir. Roeddent yn credu bod eu harferion yn effeithiol ac yn llwyddiannus. Dangosodd y Pennaeth newydd nad oedd hynny’n wir. Roedd anghysondebau rhwng asesiadau athrawon a chanlyniadau profion yn dangos bod safonau addysgu wedi llithro a bod disgyblion yn gwneud llai o gynnydd nag y credwyd. Nid oedd y Corff Llywodraethu yn deall data’n ddigonol i herio tybiaethau staff yn effeithiol.
Mae cyfres o adolygiadau ac arolygiadau bychan yn cael eu cynnal i amlygu’r llinell sylfaen bresennol ac mae cynlluniau ar waith i fynd i’r afael â diffygion. Mae hyfforddiant yn cael ei ddilyn.
Bydd gan yr Awdurdod Lleol wybodaeth a chanllawiau am y broses penodi pennaeth. Mae gan Wasanaethau Llywodraethwyr Cymru ganllaw defnyddiol i lywodraethwyr i’ch cynorthwyo hefyd.
Yn yr astudiaeth achos hon, mae’n ddealladwy y byddai’r dirprwy bennaeth yn siomedig i beidio â chael ei benodi. Mae hynny ond yn naturiol. Yn y pen draw, byddai’r corff llywodraethu wedi penodi’r unigolyn gorau am y swydd yn seiliedig ar feini prawf dethol manwl a phroses penodi a chyfweld drwyadl.
Yn anffodus, gall dadrithiad ymwreiddio ymhlith y staff, ond gallai amrywiaeth o resymau eraill fod yn gyfrifol am hynny hefyd. Bellach, mae angen i bawb, gan gynnwys rhieni, staff a llywodraethwyr, symud ymlaen er pennaf les yr ysgol. Tasg y pennaeth newydd, ynghyd â’r corff llywodraethu, fydd dod â phawb ynghyd a datblygu llwybrau newydd a strategaethau ysgol gyfan, nid lleiaf ar gyfer datblygu’r tîm. Ond nid yw hyn yn digwydd dros nos.
Mae’n anochel y bydd pennaeth newydd eisiau newid a datblygu rhai agweddau ar fywyd yr ysgol. Mae angen mynd ati’n ofalus i gyflawni hyn, fel y gallwn ei weld o’r enghraifft hon. Mae angen amser a diplomyddiaeth i ennyn cefnogaeth pawb! Bydd hyfforddiant staff a chyfleoedd datblygiad proffesiynol yn sicr o gymorth. Gall ailystyried gweledigaeth yr ysgol gan ddefnyddio rhywfaint o amser HMS a gwahodd llywodraethwyr i fynychu fod yn fan cychwyn defnyddiol.
O ran y corff llywodraethu, mae’n amlwg nad oedd yn cyflawni ei swyddogaeth strategol yn effeithiol, yn enwedig y rôl cyfaill beirniadol. Mae angen i lywodraethwyr sicrhau bod ganddynt ddealltwriaeth fanwl a chadarn o ddata’r ysgol a’u bod yn gofyn cwestiynau i herio’r sefyllfa bresennol. Felly, ni ddylai llywodraethwyr synnu pan fydd eu disgwyliadau a’u dealltwriaeth o sut mae pethau yn yr ysgol yn cael eu herio.
Dyma rai ffyrdd defnyddiol o ddatblygu’r rôl cyfaill beirniadol neu ymholgar, yn ogystal â gwybodaeth am sut i gael dealltwriaeth well o sut i ddefnyddio data perfformiad.
Sut i herio’n effeithiol? Cynghorion ymarferol
Canllaw i Lywodraethwyr ar y Defnydd o Ddata Perfformiad
A yw holl aelodau perthnasol y corff llywodraethu wedi dilyn yr hyfforddiant gorfodol ar ddata perfformiad ysgol? Gwiriwch gyda’ch clerc a / neu’r Awdurdod Lleol i weld a oes angen i chi fynychu.
Mae ymarferion hunanwerthuso ysgol a hunanadolygu effeithiolrwydd y corff llywodraethu yn ffordd wych a hwylus o fyfyrio ar gryfderau’r ysgol a meysydd i’w datblygu. Gall hyn ynddo’i hun helpu i annog trafodaeth a pherchenogaeth ac, yn bwysicaf oll, creu amgylchedd agored a thryloyw. Fel llywodraethwr, a ydych chi’n ymwneud yn llawn â phrosesau hunanwerthuso’r ysgol? A yw’r corff llywodraethu’n adolygu ei waith ei hun i weld sut gall wella? Bydd gan eich Awdurdod Lleol/Consortiwm Rhanbarthol wybodaeth am hyn i’ch cynorthwyo, ynghyd â thempledi Gwasanaethau Llywodraethwyr Cymru.
01443 844532 / 029 2075 3685
[email protected]
Sam MacNamara – 07943 887275 / Jane Morris – 07957 969708