Yn yr enghraifft hon, mae’r corff llywodraethu’n cydnabod yr angen i wella ei wybodaeth a’i ddealltwriaeth o sut mae’r gyllideb yn gweithio, a fydd, yn ei dro, yn helpu’r llywodraethwyr i ddatblygu eu rolau atebolrwydd a strategol a pheidio â ‘chymeradwyo pethau heb eu deall’. Mae’r ymrwymiad i ddatblygu’r maes gwaith hwn yn ganmoladwy. Mae datblygu perthynas waith dda â’r swyddog Rheoli Ysgolion yn Lleol (LMS) newydd yn amlwg yn fan cychwyn da.
A oes gan eich corff llywodraethu bwyllgor cyllid? Mae hyn yn ffordd dda o ddefnyddio unrhyw arbenigedd ariannol penodol a allai fod gan lywodraethwyr ac mae’n aml yn haws trafod a mynd i’r afael â’r gyllideb, yn ogystal â monitro’r incwm a’r gwariant, mewn grŵp bach cyn eu trafod ar lefel y corff llywodraethu cyfan. Dyma enghraifft o gylch gorchwyl ar gyfer y pwyllgor hwn.
Yn aml, bydd Awdurdodau Lleol yn darparu hyfforddiant ar gyllid ysgolion i benaethiaid a llywodraethwyr. Mae hyn yn ffordd wych o gynyddu’ch dealltwriaeth o sut mae’r gyllideb yn cael ei threfnu ac ati. Cysylltwch â’ch swyddog cymorth llywodraethwyr lleol i gael rhagor o wybodaeth.
Mae Gwasanaethau Llywodraethwyr Cymru yn darparu trosolwg o wybodaeth am gyllid ysgolion. Beth am gael cipolwg ar y canlynol.
Canllaw i Lywodraethwyr ar Lywodraethwyr a Chyllid
01443 844532 / 029 2075 3685
[email protected]
Sam MacNamara – 07943 887275 / Jane Morris – 07957 969708