Byddai’n beth da i’r corff llywodraethu gynnal archwiliad sgiliau i ddechrau. Mae hyn yn ffordd wych o asesu sgiliau, gwybodaeth a phrofiad llywodraethwyr ac yn galluogi’r corff llywodraethu i ganfod bylchau, pa hyfforddiant y mae ei angen, a’r ffordd orau o ddefnyddio sgiliau’r llywodraethwyr yn bwrpasol. Os oes gan lywodraethwyr unigol arbenigedd mewn meysydd penodol, gall y corff llywodraethu fanteisio ar hyn i gryfhau maes penodol o’i waith. Er enghraifft, gallai llywodraethwr a chanddo arbenigedd ariannol gynorthwyo â gwaith y pwyllgor cyllid.
Mae enghraifft o archwiliad sgiliau ar gael yma.
Mae angen i gyfarfodydd corff llywodraethu fod yn effeithlon, ond mae angen i hinsawdd y cyfarfod fod yn agored ac yn dryloyw hefyd, ar yr un pryd â chreu amgylchedd sy’n ffafriol i ofyn cwestiynau heriol a chefnogol. Nid yw llywodraethwyr yno i roi sêl bendith ar benderfyniadau yn unig, wedi’r cyfan. Rhoddir rhai awgrymiadau defnyddiol yma.
Yn ogystal â’r uchod, bydd corff llywodraethu sydd wedi datblygu gwaith tîm effeithiol, yn ogystal ag ymagwedd fentora ar gyfer llywodraethwyr newydd, fel arfer yn rhagweithiol wrth ddatblygu a rhannu meysydd gwaith allweddol, er enghraifft trwy waith llywodraethwr cyswllt, pwyllgorau a gweithgorau.
Y Corff Llywodraethu – Tim Effeithiol
Mae’r rhain i gyd yn ffyrdd rhagorol o annog llywodraethwyr i ymwneud yn llawn o’r cychwyn. Beth am rannu ffyrdd eraill o weithio y gallai eich corff llywodraethu fod wedi’u gweithredu i annog llywodraethwyr i ymwneud yn llawn?
01443 844532 / 029 2075 3685
[email protected]
Sam MacNamara – 07943 887275 / Jane Morris – 07957 969708