Ymdrin â diffyg ymddiriedaeth ymhlith rhieni

Cipolwg – Ysgol Gynradd


Beth oedd y mater yr ymdriniwyd ag ef?
Bu’n rhaid i ni ailadeiladu’r berthynas â’r gymuned rieni o ganlyniad i’r cod Categori a ryddhawyd yn gynharach yn y flwyddyn; bu’n gyfnod anodd o ganlyniad i’r gostyngiad yn y categori.

Mae rhai rhieni wedi gadael yr ysgol hefyd o ganlyniad i’r cod categori, sydd wedi effeithio ar gyllideb yr ysgol.

Ochr yn ochr â hyn, bu newidiadau ymhlith y Llywodraethwyr, gan gynnwys cyfnod o 12 mis pan ymgymerodd sawl unigolyn gwahanol â rôl Cadeirydd y Llywodraethwyr. Bu’n anodd gweithio yn yr amgylchiadau hynny ar adegau oherwydd i ni golli parhad.

Roedd diffyg cyfathrebu â rhieni gan yr ysgol wedi arwain at gwynion hefyd.


Beth ddigwyddodd?
Gwnaethom gynnal cyfarfodydd rheolaidd â rhieni i roi diweddariadau iddynt a gwnaethom greu fforwm rhieni gyda chymorth y cynghorydd herio. Defnyddiwyd technoleg i wella cyfathrebu – h.y. Dojo Dosbarth a chylchlythyrau electronig.


Pa wersi a ddysgwyd?
Rydym yn parhau i weithio trwy’r rhan fwyaf o’r materion gan eu bod yn rhai cyfredol. Ond rwy’n teimlo bod gwersi wedi cael eu dysgu. Mae gennym ni dipyn o ffordd i fynd o hyd i dyfu a datblygu. Mae cymorth proffesiynol, yn enwedig gan y Cynghorydd Herio, wedi bod yn ddefnyddiol.

Mae parhad yn allweddol ac nid yw’r holl newidiadau rydym ni wedi’u profi fel ysgol, o ran staffio, niferoedd disgyblion, newidiadau i rolau Llywodraethwyr, wedi helpu’r sefyllfa.


Sylwebaeth
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi fframwaith gwelliant ysgol, sy’n disodli’r Categoreiddio Cenedlaethol ac sy’n system hunanwerthuso gadarn lle gellir rhannu arfer da ac ymdrin â methiant ar fyrder.

Mae’r ffordd y mae ysgolion yn ymgysylltu â rhieni a gofalwyr yn hollbwysig. Mae’r astudiaeth achos hon yn rhoi enghraifft wych o effaith gostwng i gategori cenedlaethol gwahanol ac ymateb rhieni o ganlyniad.

Mae’r Ysgol wedi rhoi amrywiaeth o ddulliau da ar waith gyda chymorth y Cynghorydd Herio i ddatblygu strategaethau cyfathrebu â rhieni. Bellach, mae angen i hyn gael ei ymsefydlu’n llawn mewn bywyd pob dydd a’i ddatblygu dros amser. Bydd gan bob ysgol ei strategaeth gyfathrebu ei hun ar waith, ac ni fydd yr hyn sy’n gweithio’n dda i un ysgol bob amser yn gweithio cystal i ysgol arall. Trwy roi gwybodaeth lawn i rieni ar hyd y ffordd, gall hyn atal cwynion a phryderon rhag gwaethygu.

Mae’r newidiadau niferus i Gadeirydd y llywodraethwyr mewn cyfnod o 12 mis yn sylweddol ac ni fyddai wedi helpu i hyrwyddo sefydlogrwydd. Bellach, mae angen i’r ysgol a’r corff llywodraethu ddod at ei gilydd a gwneud ymdrech ar y cyd i ddatblygu a gweithredu strategaeth gyfathrebu/cysylltiadau cyhoeddus tymor hwy.

Mae llawer o enghreifftiau o ymarfer effeithiol sy’n darparu ffyrdd defnyddiol o ymgysylltu â rhieni. Gall ymgysylltu’n effeithiol â rhieni helpu i lywio cynllunio strategol, gwella canlyniadau dysgwyr a hyrwyddo ymgysylltu â’r gymuned, yn ogystal â gwella atebolrwydd llywodraethwyr. Mae rhai ffyrdd o ymgysylltu â rhieni’n cynnwys arolygon rhieni, gwybodaeth a gyhoeddir ym mwletinau’r ysgol ac ar wefan yr ysgol am waith y corff llywodraethu a blaenoriaethau allweddol yr ysgol, cynrychiolydd/cynrychiolwyr o’r llywodraethwyr yn mynychu nosweithiau rhieni.

Mae gan Wasanaethau Llywodraethwyr Cymru adnodd i lywodraethwyr ar ymgysylltu â rhieni.

Dyma rai astudiaethau achos a ddarparwyd gan Estyn i’ch helpu ar eich ffordd:

Darparu ymagwedd ac ethos ysgol gyfan o ran gweithio mewn partneriaeth â rhieni a gofalwyr.
Datblygu partneriaethau effeithiol gyda rhieni a’r gymuned ehangach i gefnogi dysgu disgyblion a chodi eu dyheadau.
Gwella ymgysylltiad â theuluoedd a lles dysgwyr
Ymglymiad rhieni yn ganolog i fywyd ysgol
Sesiynau ymgysylltu â rhieni yn hyrwyddo parhad ym mhrofiadau dysgu plant
Cynnwys rhieni – Cyfathrebu rhwng ysgolion a rhieni plant oedran ysgol a deunydd hyfforddiant

Gwybodaeth gan Lywodraeth Cymru:

Ymgysylltu a chymorth wrth rianta: canllawiau i ddarparwyr
Pecyn cymorth ymgysylltu â’r gymuned a theuluoedd: croesawu teuluoedd i ymgysylltu â’r ysgol


Myfyrdodau…
A yw’ch ysgol wedi wynebu gostyngiad mewn hyder rhieni?
Sut ydych chi’n cyfathrebu â chymuned rieni’r ysgol?
A fu’n rhaid i chi ymdrin â nifer sylweddol o newidiadau i lywodraethwyr? Sut gwnaethoch chi ymdopi â hyn?


Dweud eich dweud…
A ydych chi wedi cael profiadau tebyg i’r rhain?
Beth yw’ch barn am y sefyllfa a ddisgrifiwyd?


Cysylltwch â ni

01443 844532 / 029 2075 3685 [email protected]
Sam MacNamara – 07943 887275 / Jane Morris – 07957 969708