Galwyd cyfarfod o’r holl staff lle y siaradodd y llywodraethwr â nhw ac esbonio’r sefyllfa. Gwahoddwyd unrhyw aelod o staff a oedd yn teimlo bod ganddo wybodaeth i siarad â’r llywodraethwr yn gyfrinachol.
Ni chynigiodd unrhyw aelod o staff wybodaeth. Ni chafwyd rhagor o lythyrau.
Dylai’r llywodraethwr a oedd yn gyfrifol am gynnal yr ymchwiliad fod wedi cael rhywfaint o gymorth yn ystod y broses gan yr Awdurdod Lleol a Gwasanaethau Llywodraethwyr Cymru, os oedd y corff llywodraethu’n tanysgrifio i’r gwasanaeth hwnnw.
Mae canllawiau Llywodraeth Cymru ar weithdrefnau disgyblu a diswyddo staff ysgol yn manylu ar y broses, ond mae’n rhaid dilyn polisi a gweithdrefn yr ysgol ei hun yn y pen draw.
Roedd y corff llywodraethu hwn yn ffodus o gael rhywun â phrofiad yn y maes hwn. A ydych chi wedi cynnal archwiliad o sgiliau llywodraethwyr? Os na, efallai y bydd llywodraethwyr sydd ag arbenigedd mewn meysydd penodol y gall y corff llywodraethu eu defnyddio. Gellir defnyddio eu sgiliau penodol i gyflawni swyddogaethau’r corff llywodraethu yn effeithiol. Mae gan Wasanaethau Llywodraethwyr Cymru dempled y gellir ei ddefnyddio.
Ceisiwch gyngor gan yr Awdurdod Lleol neu’r Awdurdod Esgobaethol, fel y bo’n briodol, o’r cychwyn cyntaf neu cysylltwch â Gwasanaethau Llywodraethwyr Cymru ar [email protected].
01443 844532 / 029 2075 3685
[email protected]
Sam MacNamara – 07943 887275 / Jane Morris – 07957 969708