Mynd i’r afael â’r canlyniadau yn dilyn gwerthusiad gwael o ysgol
Ysgol pob oed
Beth oedd y mater yr ymdriniwyd ag ef? Fe’m penodwyd yn Gadeirydd y Llywodraethwyr ar gyfer ysgol a oedd mewn categori Estyn isel. Roedd yr uwch aelodau staff yn gwadu’r sefyllfa ac roedd y llywodraethwyr yn teimlo nad oeddent wedi cael eu cynghori’n briodol ar faterion yn yr ysgol.
Beth ddigwyddodd?
Penodwyd Pennaeth newydd a chanddo safbwynt cwbl wahanol. Gwnaethom adolygu’r Cynllun Gweithredu Ôl-arolygiad (
PIAP) gyda Chynghorydd Herio newydd a phrofiadol. Cafodd cynnydd yn erbyn y
PIAP ei fonitro’n ofalus.
Pa wersi a ddysgwyd?
Mae’r ysgol yn cael ei pharchu’n fwy yn y gymuned erbyn hyn, ac mae ganddi safonau llesiant uchel wedi’u cadarnhau. Mae’r staff yn canolbwyntio ar y disgyblion sy’n golygu bod yr holl ddisgyblion yn cael eu gwerthfawrogi. Mae canlyniadau arholiadau CA4 wedi gwella.
Sylwebaeth
Mae’r corff llywodraethu’n dibynnu ar y pennaeth a’r uwch aelodau staff i ddarparu’r wybodaeth y mae arno ei hangen i gyflawni ei rôl cyfaill beirniadol. Wedi dweud hynny, dylai data perfformiad yr ysgol helpu i ddangos cryfderau a gwendidau’r ysgol hefyd. Mae’n bwysig cadarnhau bod holl aelodau perthnasol y corff llywodraethu wedi mynychu
hyfforddiant gorfodol ar ddeall data ysgol? Efallai y byddai cwrs gloywi’n syniad da i’r holl lywodraethwyr.
Er bod y data’n bwysig, mae’r un mor bwysig edrych ar y wybodaeth gyd-destunol. Dyma lle mae’r corff llywodraethu a’i rôl fel cyfaill beirniadol yn hollbwysig. Mae angen i lywodraethwyr ofyn cwestiynau i gael yr hanes wrth wraidd y data er mwyn gwneud penderfyniad gwybodus ynglŷn â pha strategaethau a ddylai fod ar waith yn yr ysgol, a chytuno ar flaenoriaethau datblygu’r ysgol. Rhoddir isod enghreifftiau o gwestiynau:
- Beth yw’r cyrhaeddiad cyffredinol erbyn diwedd pob cyfnod allweddol?
- Beth yw’r cyrhaeddiad a’r safonau ym mhob grŵp blwyddyn, dosbarth a phwnc, ac ar gyfer disgyblion unigol o gymharu â’u canlyniadau rhagfynedig a’r cyfartaledd cenedlaethol (os yw ar gael)?
- Sut mae’r canlyniadau hyn yn cymharu â’n targedau?
- A yw rhai unigolion a grwpiau o ddisgyblion yn gwneud yn well nag eraill? Os felly, pam, a pha strategaethau sydd ar waith i gynnal a rhannu arfer gorau a sicrhau gwelliannau?
- A yw disgyblion yn gwneud cynnydd gwell neu waeth na’r disgwyl erbyn diwedd eu cyfnod yn yr ysgol ac yn y blynyddoedd yn y canol?
Mae gan Wasanaethau Llywodraethwyr Cymru gyfres o adnoddau sy’n gallu helpu’r corff llywodraethu yn y maes hwn:
Myfyrdodau…
A fu gennych achos erioed i amau penderfyniadau arweinwyr eich ysgol ar faterion yn ymwneud ag ansawdd y ddarpariaeth? Os felly, beth wnaethoch chi a/neu’r corff llywodraethu i fynd i’r afael â’r pryderon hynny? Pa heriau a chyfleoedd a fyddai’n gysylltiedig â gweithredu
PIAP, yn eich barn chi?
Dweud eich dweud…
A ydych chi wedi cael profiadau tebyg i’r rhain?
Beth yw’ch barn am y sefyllfa a ddisgrifiwyd?