Datrys cwynion a wnaed gan rieni yn erbyn athrawon

Cipolwg – Ysgol Gynradd


Beth oedd y mater yr ymdriniwyd ag ef?
Gwnaeth rhiant gŵyn yn erbyn athro/athrawes ei phlant oed ysgol gynradd. Anfonodd lythyr at yr adran addysg, y pennaeth a Chadeirydd y llywodraethwyr. Roedd y fam yn ddig iawn yn ei llythyr ac yn bygwth pob math o ffyrdd o gymryd camau pellach.


Beth ddigwyddodd?
Gan ein bod wedi derbyn llythyr, cymerodd ein corff llywodraethu gamau, trwy’r Cadeirydd, i ymdrin â’r mater ar wahân. Daeth y rhiant dan sylw i’r ysgol i gael cyfarfod; dangosodd hi rywfaint o densiwn ac fe aethon ni drwy’r llythyr a gwrando. Cyfeiriwyd y llythyr at y Cadeirydd, felly dim ond y Cadeirydd, llywodraethwr arall a’r ysgrifennydd oedd yn bresennol yn y cyfarfod. Nid oeddem eisiau codi ofn ar y rhiant. Yna, fe lunion ni restr o bethau y byddem ni’n eu gwneud, ac fe drefnon ni gyfarfod arall ymhen wythnos lle y byddem yn rhoi atebion. Cynhaliwyd y cyfarfod nesaf, ac fe roddon ni ein hatebion iddi. Roedd yr achwynydd yn fodlon â’r canlyniad.

Pa wersi a ddysgwyd?
Bod yn amyneddgar a gwrando. Roeddem wedi siarad â’r athro/athrawes dan sylw a’r cynorthwy-ydd addysgu cyn y cyfarfod er mwyn i ni glywed eu hochr nhw. Roedd yr athro/athrawes wedi cael llythyr hefyd. Fe wnaethon ni’n siŵr ein bod yn casglu gwybodaeth gan bob ochr cyn cyfarfod â’r achwynydd i geisio datrys y mater.


Sylwebaeth
Dylai ysgolion ymdrin â chwynion yn gyflym ac mewn modd sensitif. Mae angen i achwynwyr wybod bod eu pryderon yn cael eu hystyried o ddifrif a bod rhywun yn gwrando arnynt, a dyna a ddigwyddodd yma. Fel arfer, mae’r Cadeirydd ac aelodau o’r corff llywodraethu yn ymwneud â chwynion ynglŷn â’r ysgol pan fydd pryderon yn cael eu codi am y pennaeth, neu pan nad oedd yr achwynydd yn fodlon ar gamau cynharach y weithdrefn gwyno. (Mae 3 cham, ac mae Cam 3 yn cael ei glywed gan bwyllgor o lywodraethwyr).

Nid yw’n glir yn y sefyllfa hon ba gam yr oedd y gŵyn wedi’i gyrraedd, gan fod y Cadeirydd a llywodraethwr arall yn ymdrin â’r mater.

Er bod yr achwynydd yn fodlon â chanlyniad ei bryder, a gyflëwyd yn ystod cyfarfod, dylid anfon ymateb ysgrifenedig bob amser i gwblhau’r broses, oherwydd derbyniwyd llythyr cwyn i ddechrau.

Mae rhagor o wybodaeth am gwynion ysgol ar gael yn y canllawiau defnyddiol hyn. Mae gan GCS hefyd becyn cymorth ar ddelio â chwynion yn effeithiol.


Myfyrdodau…
Sut mae’ch corff llywodraethu wedi mynd i’r afael â chwynion gan rieni yn erbyn athrawon yn eich ysgol?
A oes gennych chi bolisi a gweithdrefnau ar waith i geisio datrys cwynion gan rieni yn erbyn yr ysgol?


Dweud eich dweud…
A ydych chi wedi cael profiadau tebyg i’r rhain?
Beth yw’ch barn am y sefyllfa a ddisgrifiwyd?


Cysylltwch â ni

01443 844532 / 029 2075 3685 [email protected]
Sam MacNamara – 07943 887275 / Jane Morris – 07957 969708