Materion diogelu a’r angen am gymorth gan yr Awdurdod Lleol
Trafodaeth – Ysgol Gynradd
Beth oedd y mater yr ymdriniwyd ag ef?
Anawsterau yn deillio o ddiogelu disgyblion ag anghenion cymorth uchel iawn sydd, o bosibl, yn ormod i staff yr ysgol ymdopi â nhw’n effeithiol. Cododd faterion gyda nifer fach iawn o ddisgyblion a oedd yn achosi sefyllfaoedd perygl uchel (un gyda chyllell), i staff a disgyblion eraill. Nid yw disgyblion ag anghenion cymorth mor uchel wedi cael eu derbyn o’r blaen, hyd y gwn i.
Beth ddigwyddodd?
Rydym yn dal i aros am gyfarfod gyda’r bobl addysg a chynhwysiant yn yr Awdurdod Lleol i drafod hyn a gweld beth sydd wedi newid, os o gwbl, yn eu dealltwriaeth o’r gwahanol fathau o anghenion cymorth ymhlith disgyblion ag anawsterau dysgu a’r hyn y gallwn ni ei ddarparu.
Pa wersi a ddysgwyd?
Rydw i’n credu nad ydyn nhw eisiau cyfarfod â ni. Os oes gennym ni gyfrifoldeb cyfreithiol yna fe ddylem ni gael ein clywed, ac eto dywedwyd wrthyf nad ydyn nhw fel arfer yn trafod unrhyw beth gyda llywodraethwyr. Rwy’n anghytuno’n llwyr â hynny. Mae angen i ni allu cynorthwyo ein Huwch Dîm Arweinyddiaeth sut bynnag y gallwn, neu fel arall rydym ni’n bodoli dim ond i ufuddhau i gyfarwyddiadau… safbwynt traddodiadol ein Hawdurdod Lleol?
Sylwebaeth
Mae gan bob ysgol a chorff llywodraethu ddyletswyddau statudol o ran disgyblion ag
ADY. Mae hyn yn cynnwys cyfrifoldeb y corff llywodraethu i bennu polisi ac ymagwedd yr ysgol ar gyfer bodloni anghenion disgyblion ag
ADY a’r rhai nad oes ganddynt
ADY. Mae’r rhan fwyaf o gyrff llywodraethu’n penodi llywodraethwr cyswllt a/neu bwyllgor i adolygu a goruchwylio trefniadau’r ysgol.
Y Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol
Mae gan Wasanaethau Llywodraethwyr Cymru wybodaeth am rôl y llywodraethwr cyswllt ADY hefyd.
Mae gan yr Awdurdod Lleol gyfrifoldeb penodol hefyd i ddarparu cymorth i ysgolion, ynglŷn â darparu ar gyfer plant ag ADY, yn ogystal â chynllunio, monitro ac adolygu’r ddarpariaeth ar gyfer y plant hyn. Byddai’n rhesymol, felly, disgwyl trafod gyda’r Awdurdod Lleol y ffordd orau ymlaen ar gyfer disgyblion unigol sy’n achosi pryder difrifol. Byddai hyn fel arfer yn cynnwys yr aelod perthnasol o staff e.e. Cydlynydd ADY a’r Pennaeth, o bosibl, yn ogystal ag unrhyw sefydliadau amlasiantaethol eraill perthnasol, mewn rhai achosion.
Mae’n eithaf tebygol na fyddai llywodraethwyr yn ymwneud â’r achos hwn tan yn ddiweddarach yn y broses, os na ddarparwyd cymorth digonol.
Yn y pen draw, mae dyletswydd gofal i aelodau staff, ac os canfyddir, ar ôl asesiadau risg a thrafodaethau â’r asiantaethau perthnasol, na ddarperir cymorth digonol i ddisgyblion unigol, er enghraifft cymorth un i un, diogelwch staff a disgyblion eraill sydd bwysicaf.
Ni chrybwyllir gwahardd disgybl yn y sefyllfa hon, ond lle y ceir sefyllfaoedd difrifol a risg uchel, gallai gwahardd gael ei ystyried, er hynny fel dewis olaf.
Mae’r dolenni isod yn darparu gwybodaeth ychwanegol:
Ymyriadau diogel ac effeithiol: canllawiau ar gyfer ysgolion ac awdurdodau lleol
Cadw dysgwyr yn ddiogel
Rheoli ymddygiad yn yr ystafell ddosbarth: canllawiau ar gyfer ysgolion uwchradd
Rheoli ymddygiad yn yr ystafell ddosbarth: canllawiau ar gyfer ysgolion cynradd
Anghenion dysgu ychwanegol
Myfyrdodau…
A oes materion diogelu neu les disgyblion penodol yn eich ysgol?
I ba raddau ydych chi’n teimlo bod eich ysgol yn cael ei chefnogi wrth ddelio â phlant y mae arnynt angen cymorth?
Dweud eich dweud…
A ydych chi wedi cael profiadau tebyg i’r rhain?
Beth yw’ch barn am y sefyllfa a ddisgrifiwyd?