Mae’n rhaid i ysgolion gofnodi unrhyw ddigwyddiadau, gan nodi’r camau a gymerwyd. Yn yr un modd, mae angen i’r corff llywodraethu fonitro gwybodaeth yn ofalus a gwneud unrhyw newidiadau perthnasol i bolisïau’r ysgol, fel y bo’n briodol.
Gwahardd o’r ysgol ac unedau cyfeirio disgyblion – Mae hwn yn ganllaw rhagorol sy’n rhoi gwybodaeth am rôl y pennaeth, graddfeydd amser, y pwyllgor disgyblu disgyblion ac ailintegreiddio ac ati.
Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn gwarchod dysgwyr rhag gwahaniaethu yn seiliedig ar nodweddion gwarchodedig, y mae hil yn un ohonynt. Mae dyletswydd gofal sector cyhoeddus Deddf 2010 yn gosod dyletswydd gyffredinol ar y corff llywodraethu i roi sylw dyledus i’r gofyniad i: gael gwared ar wahaniaethu, aflonyddu, erledigaeth ac ati, a hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng pobl p’un a oes ganddynt nodwedd warchodedig berthnasol ai peidio, meithrin cysylltiadau da rhwng pobl p’un a oes ganddynt nodwedd warchodedig berthnasol ai peidio.
Gellir dod o hyd i wybodaeth berthnasol yn adrannau 1.17.2 – 1.17.13.
Felly, mae polisïau ysgol mor bwysig i ategu gwerthoedd yr ysgol a helpu i ddatblygu ethos cynhwysol, h.y. parchu ei gilydd. Mae ymagwedd ysgol gyfan sy’n cynnwys yr holl staff, disgyblion, rhieni a llywodraethwyr, yn helpu i ymsefydlu arferion enghreifftiol ac yn sicrhau cyd-ddealltwriaeth o’r hyn nad yw’n dderbyniol.
Mae angen i ysgolion a chyrff llywodraethu adolygu eu polisïau (er enghraifft, ymddygiad, gwrthfwlio, cydraddoldeb), eu harferion a’u gweithdrefnau i sicrhau bod holl staff yr ysgol yn ymwybodol o’r prosesau sydd ar waith ac yn eu deall.
Bydd llawer o Awdurdodau Lleol yn darparu hyfforddiant i lywodraethwyr ar wahardd disgyblion. Dylai ysgolion hefyd sicrhau bod staff yn deall y prosesau ac yn gweithredu’n gyson. Bydd rhai ysgolion yn defnyddio amser HMS dynodedig i fyfyrio ar strategaethau rheoli ymddygiad disgyblion ac adolygu a diweddaru gweithdrefnau. Mae hyn yn ffordd wych i’r holl staff rannu arferion effeithiol.
Bydd gan eich Awdurdod Lleol wybodaeth ddefnyddiol i’ch helpu hefyd. Dyma rai dolenni i wybodaeth ychwanegol i gynorthwyo ysgolion a llywodraethwyr:
01443 844532 / 029 2075 3685
[email protected]
Sam MacNamara – 07943 887275 / Jane Morris – 07957 969708