Penodi pennaeth newydd yn allweddol i fynd i’r afael â materion eraill yn yr ysgol

Trafodaeth – Ysgol Gynradd


Beth oedd y mater yr ymdriniwyd ag ef?
Diffyg cyllidebol mawr, adroddiad Estyn anfoddhaol a chyfres o benaethiaid dros dro. Roedd gennym hefyd broblem yn ymwneud â gor-staffio a chynghorydd a geisiodd unioni’r sefyllfa gan nad oedd gennym bennaeth parhaol.

Beth ddigwyddodd?
Roedd y mater gor-staffio yn anodd ei ddatrys oherwydd bod yr Awdurdod Lleol wedi ceisio gwneud hynny trwy leihau oriau yn lle lleihau nifer y staff, gan olygu bod parhad a chyfathrebu’n anodd. Roedd yn anodd denu pennaeth newydd, yr oedd angen iddo fod yn siaradwr Cymraeg iaith gyntaf, gan nad oes digon o ymgeiswyr o ansawdd da ar gael. Roedd y corff llywodraethu hefyd wedi bod yn awyddus i benodi Cadeirydd newydd o’r tu allan i’r gymuned a chanddo rywfaint o brofiad o fyd addysg. Digwyddodd hyn a bu o gymorth oherwydd fe allai gysylltu â’r cynghorydd ar y pryd i ddweud na fyddem yn fodlon penodi un o’r penaethiaid dros dro blaenorol.


Pa wersi a ddysgwyd?
Yr hyn oedd yn allweddol i welliant oedd pan wnaethom benodi pennaeth newydd brwdfrydig a chanddo brofiad eang o ysgolion o wahanol feintiau yng Nghymru a thu hwnt. Rhoddodd yr Awdurdod Lleol rywfaint o gymorth hefyd wrth gyllido terfynu contractau staff, yn ogystal â darparu cynghorydd a chymorth AD.


Sylwebaeth
Penodi pennaeth newydd yw tasg bwysicaf y corff llywodraethu, yn ôl pob tebyg. Mae sgiliau’r pennaeth yn arbennig o bwysig wrth sicrhau llwyddiant a gwelliant yr ysgol. Y penaethiaid gorau yw’r rhai sy’n sbarduno’r ysgol i symud ymlaen a sicrhau ymrwymiad cryf i safonau uchel ym mhob agwedd ar waith yr ysgol. O ystyried hyn, bydd y corff llywodraethu eisiau denu’r ymgeiswyr iawn i’w cyfweld. Ar ôl dilyniant o benaethiaid dros dro, roedd y corff llywodraethu’n gallu gwneud penodiad rhagorol i symud yr ysgol ymlaen. Mae gan Wasanaethau Llywodraethwyr Cymru ganllaw ar benodi penaethiaid a dirprwy benaethiaid sy’n cynnwys gwybodaeth am yr hysbyseb, manyleb y swydd a’r pecyn cais.

Mae’r astudiaeth achos hon yn amlygu sawl ffactor allweddol:

A oedd y corff llywodraethu’n ymwybodol bod problem gor-staffio ac felly gorwariant? Lle y ceir diffyg cyllidebol, mae’n hollbwysig bod cyrff llywodraethu’n ystyried y strwythur staffio i benderfynu a oes angen cychwyn gweithdrefnau dileu swydd, neu ystyried contractau oriau gostyngol i geisio lleihau treuliau ariannol. Er y byddai wedi bod yn amgenach lleihau oriau yn hytrach na cholli staff yn gyfan gwbl, weithiau mae’n rhaid gwneud penderfyniadau anodd, h.y. diswyddiadau gwirfoddol / statudol.

Nid yw’n glir am ba mor hir y bu gor-staffio’n broblem yn yr ysgol. A oedd gan y corff llywodraethu bwyllgor cyllid ar waith a oedd yn craffu ar wariant yn yr ysgol? Mae hyn yn ffordd effeithiol o adolygu a monitro cyllid yr ysgol. Mae gan Wasanaethau Llywodraethwyr Cymru gylch gorchwyl enghreifftiol ar gyfer y pwyllgor hwn.

Mae Awdurdodau Lleol yn cynnig Cytundeb Lefel Gwasanaeth ar gyfer materion Adnoddau Dynol. Os oes gan y corff llywodraethu bryderon ynglŷn â’r gwasanaeth y mae’n ei gael o dan y cytundeb hwn, dylid eu codi gyda’r Awdurdod Lleol gan ddefnyddio’r weithdrefn berthnasol.


Myfyrdodau…
A fu’n rhaid i’ch ysgol fynd i’r afael â materion gor-staffio? Beth wnaethoch chi a weithiodd?
A ydych chi’n gwybod pa gymorth y gallai’r Awdurdod Lleol neu Gonsortiwm rhanbarthol ei ddarparu o ran materion AD?


Dweud eich dweud…
A ydych chi wedi cael profiadau tebyg i’r rhain?
Beth yw’ch barn am y sefyllfa a ddisgrifiwyd?

Sylwadau

Ychwanegu sylw

Cysylltwch â ni

01443 844532 / 029 2075 3685 [email protected]
Sam MacNamara – 07943 887275 / Jane Morris – 07957 969708