Cynhaliwyd y gwaith ymchwil gan WISERD i geisio deall sut gellid cynorthwyo llywodraethwyr ysgolion yng Nghymru â’u gwaith. Casglwyd data trwy gyfweliadau manwl â llywodraethwyr sy’n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd ac arolwg llywodraethwyr, a weinyddwyd yn genedlaethol. Roedd y canfyddiadau o’r data hyn wedi ein galluogi i ddatblygu astudiaethau achos a gynhyrchwyd gan lywodraethwyr. Nodau’r astudiaethau achos hyn yw: annog myfyrio ar y mathau o faterion y gallai llywodraethwyr ddod ar eu traws yn eu rôl; dangos sut mae llywodraethwyr wedi mynd i’r afael â materion; ysgogi sgyrsiau a rhannu gwybodaeth ar draws cyrff llywodraethu. Mae tair thema gyffredinol i’r astudiaethau achos: y rhai sy’n rhoi enghreifftiau o arfer da; y rhai sy’n amlygu heriau llywodraethu; a’r rhai sy’n datgelu sut gall llywodraethwyr gymryd cam gwag neu wynebu problemau. Mae’n bwysig bod defnyddwyr yn cydnabod defnyddiau gwahanol yr achosion ac yn sylweddoli mai myfyrdodau a grëwyd gan lywodraethwyr yw’r rhain, nid atebion diffiniol neu hanesion cyflawn. Yn gyffredinol, gwelwn y gallai achosion sy’n mynd i’r afael â heriau fod yn ddefnyddiol i lywodraethwyr newydd eu hystyried fel modd o ehangu eu safbwyntiau ar y rôl; gellir rhannu enghreifftiau o arfer da yn ehangach ac maen nhw’n cynnig awgrymiadau ynglŷn â ffyrdd y mae llywodraethwyr wedi mynd i’r afael â materion; byddai achosion sy’n cyflwyno anawsterau a phroblemau y mae llywodraethwyr wedi’u hwynebu yn fwyaf buddiol mewn sefyllfaoedd hyfforddi lle y gellir darparu gwybodaeth a deunyddiau ychwanegol. Sylwch nod astudiaeth achos cyn ei defnyddio: Myfyrio; Cipolwg; Trafod.
  Nod         |   Thema         |   Defnydd         |
---|---|---|
  Myfyrio         |   Heriau         |   Llywodraethwyr newydd, sefydlu         |
  Cipolygon         |   Arfer da         |   Llywodraethwyr yn mynd i’r afael â materion penodol         |
  Trafod         |   Problemau         |   Sefyllfaoedd hyfforddi         |
Trefnwyd yr astudiaethau achos hyn fesul thema a gellir eu chwilio trwy eiriau allweddol a thagiau pwnc. Rydym wedi cyflwyno’r rhain mewn fformat blog i ganiatáu i gydweithwyr ysgrifennu ymatebion a galluogi’r casgliad i dyfu a datblygu. Sylweddolwn fod y casgliad yn gyfyngedig mewn sawl ffordd, o ran nifer yr astudiaethau achos o ysgolion uwchradd, ysgolion pob oed ac ysgolion arbennig, ac o ran y pynciau yr ymdrinnir â nhw. Fodd bynnag, rydym wedi penderfynu bwrw ymlaen i’w cyhoeddi yn y gobaith y bydd hyn yn annog llywodraethwyr eraill i gyfrannu eu profiadau a’u cipolygon, yn ogystal â phrofi gwerth adnodd o’r fath. Mae sylwebaeth ddefnyddiol, ynghyd â dolenni i adnoddau ychwanegol mewn sawl achos, yn cyd-fynd â phob astudiaeth achos ac argymhellwn fod llywodraethwyr yn darllen y rhain ochr yn ochr â myfyrdodau personol eu cydweithwyr.
Ceir dolen i ffurflen hefyd y gall llywodraethwyr ei defnyddio i gyfrannu astudiaethau achos newydd: Pro-forma Myfyrdodau Llywodraethwyr.
Cydnabyddiaethau
Hoffem ddiolch yn ddiffuant i’r holl lywodraethwyr a gyfrannodd at yr ymchwil; y rhai hynny a wirfoddolodd i gael eu cyfweld a’r cannoedd o lywodraethwyr ledled Cymru a gwblhaodd yr arolwg. Rhaid diolch yn arbennig hefyd i’r llywodraethwyr a ddarparodd astudiaethau achos, y defnyddir llawer ohonynt yma.
Rhoddodd nifer o unigolion eraill wybodaeth a chymorth gwerthfawr, gan gynnwys cydweithwyr yn Estyn, Awdurdodau Lleol a Chonsortia. Rydym yn arbennig o ddyledus i Wasanaethau Llywodraethwyr Cymru am eu cymorth a’u cyngor, a roddodd o’u hamser yn hael i adolygu’r astudiaethau achos a darparu nodiadau canllaw gwerthfawr gyda dolenni i adnoddau defnyddiol.
01443 844532 / 029 2075 3685
[email protected]
Sam MacNamara – 07943 887275 / Jane Morris – 07957 969708