Rwyf wedi croesawu adroddiad Arolygiaeth Dysgu. Rwy’n falch bod yr adroddiad yn cydnabod y rôl hanfodol y mae Estyn yn ei chwarae yn cyfoethogi dysgu pobl ifanc yng Nghymru, ac mae’n adeiladu ar gryfderau’r system arolygu bresennol.
Hefyd, rwy’n croesawu cyhoeddiad y Gweinidog Addysg ar y Trefniadau Gwerthuso a Gwella ar gyfer Cymru, gan gynnwys y cyhoeddiad am ymgynghori ar reoliadau’r cyfnod arolygu. Er mwyn i arolygiadau ysgolion a gynhelir gael eu gohirio yn rhannol rhwng Medi 2020 ac Awst 2021, bydd angen i reoliadau presennol ymestyn y cylch arolygu o saith mlynedd i wyth mlynedd ar gyfer y cylch presennol. Byddai hyn yn galluogi Estyn i weithio’n agos ag ysgolion ar ddiwygio’r cwricwlwm am flwyddyn academaidd gyfan.
Yn ystod yr ychydig flynyddoedd nesaf, bydd gwaith Estyn yn datblygu ac yn newid. Yn benodol, cynigiaf roi newidiadau ar waith i drefniadau arolygu, a hynny fesul dri cham. Yn ystod y cyfnod hwn, ni fydd newid i’n dyletswyddau statudol a byddwn yn parhau i arolygu ac adrodd ar ansawdd a safonau addysg a hyfforddiant yng Nghymru. Rhoddir unrhyw newidiadau ar waith yn dilyn ymgynghoriad llawn â’n holl randdeiliaid.
Cyn hir, byddwn yn lansio ymgynghoriad ar y cam hwn ac yn gofyn am farn rhanddeiliaid. Mae Estyn yn cydnabod graddfa’r disgwyliadau sy’n cael eu gosod ar ysgolion gan yr agenda diwygio addysg. Felly, byddai gweithgareddau yn ystod y cam hwn yn canolbwyntio ar gefnogi a gwerthuso’r newidiadau sy’n mynd rhagddynt mewn addysg yng Nghymru. Byddai’n caniatáu i arolygwyr ddatblygu dealltwriaeth o’r broses ddiwygio ac yn ein galluogi ni i ddarparu cyngor pellach ar bolisi, addasu ein harferion a datblygu trefniadau arolygu newydd. Yn ystod y cyfnod hwn, rydym yn bwriadu:
Yn ystod y cam hwn, byddai arolygu yn ailgychwyn. Byddai trefniadau arolygu newydd yn cael eu cyflwyno, gan adeiladau ar y trefniadau arolygu presennol, gydag addasiadau i adlewyrchu’r disgwyliadau yn ‘Arolygiaeth Dysgu’ a gofynion y pecyn cymorth newydd ar gyfer hunanwerthuso, sydd wrthi’n cael ei ddatblygu gan y proffesiwn, gyda chymorth gan Estyn a’r OECD. Cyn cyflwyno’r trefniadau arolygu newydd, byddwn yn ymgynghori’n llawn â rhanddeiliaid, fel y gwnaethom wrth ddatblygu’r trefniadau arolygu presennol.
Cynnig arwyddocaol fyddai symud tuag at ddileu graddau crynodol mewn adroddiadau arolygu. Byddai adroddiadau arolygu’n darparu gwerthusiadau manwl a chlir o waith ysgol. Byddai’r newid hwn yn annog mwy o ddeialog broffesiynol am y ffactorau sylfaenol sy’n cyfrannu at ansawdd darpariaeth ysgol. Hefyd, byddem yn ymgynghori â’r sector nas cynhelir, ysgolion annibynnol a darparwyr ôl-16 am newidiadau tebyg i arolygu’u sectorau nhw.
Yn ystod y cam hwn, byddwn hefyd yn rhoi datblygiadau ychwanegol i’n trefniadau arolygu ar brawf ar gyfer Cam 3. Byddai cynigion yn cynnwys pwyslais pellach ar hunanwerthuso, a chyflwyno barnau yn ymwneud â dilysu hunanwerthusiad ysgol. Byddai testun yn yr adroddiad, yn nodi cryfderau a meysydd i’w datblygu yn glir, yn ategu’r barnau.
Byddai’r pontio i gam tri yn digwydd dros sawl blwyddyn, yn dibynnu ar aeddfedrwydd y system i hunanwerthuso a chan gyfrif am gyflwyno’r cwricwlwm fesul cam. Yn ystod y cyfnod hwn, byddai disgwyl i ysgolion weithio gyda’u cymheiriaid, gyda chymorth gan gonsortia, wrth lunio’u barn am eu cryfderau a’u meysydd eu hunain i’w datblygu.
Bydd trefniadau arolygu yn esblygu ymhellach yn ystod Cam 3. Fel yr amlinellwyd uchod, byddai hyn yn cynnwys gosod mwy o bwyslais ar hunanwerthuso a chyflwyno dilysu trwy arolygu. Byddai dilysu trwy arolygu’n cael ei gyflwyno mewn ysgolion sy’n barod am hyn. Wrth i allu ysgolion i ymgysylltu’n onest â hunanwerthuso aeddfedu, rôl cyrff allanol fyddai darparu safbwyntiau sy’n procio barnau mewnol. Byddai arolygwyr yn adrodd ar eu hyder ym mhroses hunanwerthuso’r ysgol. Gellid mynegi’r hyder hwnnw ar ffurf lefelau o hyder, fel cwbl hyderus, rhannol hyderus neu ddim yn hyderus.
Neges gref yn adroddiad ‘Arolygiaeth Dysgu’ yw’r angen am fwy o wybodaeth ‘amser real’ am y system addysg. Gwendid allweddol y trefniadau arolygu presennol yw’r bwlch o saith mlynedd, ar gyfartaledd, rhwng arolygiadau – a gall ysgolion wella neu ddirywio yn ystod y cyfnod hwn. Un cynnig fyddai i ni arolygu a dilysu proses hunanwerthuso ysgol fwy nag unwaith o fewn cylch saith mlynedd. Byddai hyn yn galluogi Estyn i roi sicrwydd amlach am uniondeb y broses hunanwerthuso, y safonau sy’n cael eu cyflawni a’r blaenoriaethau ar gyfer gwella ymhellach.
19 Chwefror, 2019
01443 844532 / 029 2075 3685
[email protected]
Sam MacNamara – 07943 887275 / Jane Morris – 07957 969708