Astudiaeth achos hunanwerthusiad ysgol



Astudiaeth achos hunanwerthusiad ysgol
Ysgol Gynradd Pontnewydd, Torfaen – Allan Tait, Cadeirydd

CYD-DESTUN
Mae tua 430 o ddisgyblion yn Ysgol Gynradd Pontnewydd yng Nghwmbran, yn cynnwys y Meithrin. Mae llywodraethwyr yn cymryd rhan gyda’r staff yn y sesiwn hunanwerthuso ysgol blynyddol a gynhelir fel rhan o ddiwrnod HMS ar ddiwedd tymor yr haf. Mae hyn yn arwain at Adroddiad Hunanwerthuso ar gyfer y flwyddyn, ac yna’r Cynllun Datblygu Ysgol (CDY) ar gyfer y flwyddyn ganynol. Mae Cynllun Gweithredu Llywodraethwyr bob amser yn y CDY. Yn y sesiwn hunanwerthuso ysgol gyfan mae Cadeirydd y corff llywodraethu yn rhoi cyflwyniad ar ganlyniadau Cynllun Gweithredu Llywodraethwyr y flwyddyn honno. Mae Hunanwerthusiad y Corff LLywodraethu yn rhan annatod o werthusiad yr ysgol gyfan.

PROSES
Cynhelir cynllun Hunanwerthuso Corff Llywodraethu GCS bob tair blynedd, yn hytrach nag yn flynyddol, oherwydd yr ymrwymiad amser a olygir. Yn y blynyddoedd rhwng hynny mae’r llywodraethwyr yn llenwi holiadur llywodraethwyr unigol ac mae hyn yn bwydo i mewn i baratoi Cynllun Gweithredu Llywodraethu y flwyddyn ddilynnol.

Sefydlir gweithgor bychan o lywodraethwyr, fel arfer 4, yn y CCB ym mis Hydref. Maen nhw’n cynnwys Cadeirydd y Llywodraethwyr ac yna amrediad o brofiad llywodraethiant i roi persbectif eang. Mae pob llywodraethwr yn llenwi’r holiadur llywodraethwyr unigol. Cynhelir gwaith y gweithgor yn bennaf yn ystod tymor y gwanwyn. Rhennir 6 maes y cynllun fel rheol rhwng 2 is-gr?p; yna daw’r gweithgor at ei gilydd i adolygu’r canlyniadau.

Mae’r Cadeirydd yn drafftio adroddiad i’r gweithgor ei ystyried. Mae’r adroddiad wedyn yn cael ei gyflwyno i gyfarfod mis Mai y corff llywodraethu sydd yn nodi beth ddylid ei gynnwys yng Nghynllun Gweithredu Llywodraethiant y flwyddyn ganlynol.

ARSYLWADAU
– Rydym yn defnyddio’r fersiwn electronig oherwydd mae hyn yn osgoi gorfod argraffu copïau o’r ffurflenni.
– Mae Rhan A yn rhestr wirio ddefnyddiol i sicrhau bod hanfodion llywodraethiant yn gywir.
– Mae defnyddio’r holiadur unigol yn cynnwys pob llywodraethwr yn y broses.
– Mae’r fformat sydd yn cyd-daro gyda meysydd arolygu Estyn yn tywys llywodraethwyr i’r dadansoddiad a ddefnyddir mewn hunanwerthusiad ysgol gyfan.
– Mae’n arbennig o werth chweil gwneud hyn yn y cyfnod cyn arolwg.

Sylwadau

Ychwanegu sylw

Cysylltwch â ni

01443 844532 / 029 2075 3685 [email protected]
Sam MacNamara – 07943 887275 / Jane Morris – 07957 969708