Newyddion

Diweddariadau Cenedaethol - Mai 2023

Digwyddiad Estyn yn Fyw: Llywodraethwyr Ysgol
Gweithredu fel cyfeillion beirniadol ac effaith hyfforddiant i lywodraethwyr

Ymunwch yn fyw yma am 6pm ar 24 Mai 2023. Bydd y Cyfarwyddwr Cynorthwyol, Cath Evans ac a’r AEF Liz Counsell a Carwyn Jenkins, yn rhannu canfyddiadau eu hadroddiad Thematig, sy’n lansio ar yr un diwrnod hwnnw ac yn ymchwilio i waith pwysig llywodraethwyr ysgol – eu rôl fel cyfeillion beirniadol ac effaith hyfforddiant i lywodraethwyr.

Os ydych yn ymwneud â gwaith cyrff llywodraethol mewn ysgolion ledled Cymru, ymunwch ag Estyn i glywed am:
– y prif benawdau o’n hadroddiad thematig;
– enghreifftiau o arfer effeithiol mewn ysgolion ledled Cymru;
– pwysigrwydd hyfforddiant o ansawdd uchel i sicrhau bod llywodraethwyr yn ymwybodol o’r datblygiadau diweddaraf ym myd addysg.

Byddant hefyd yn ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych am ganfyddiadau’r adroddiad.

Byddant yn fyw am oddeutu 30 munud, ond os na allwch ymuno yn fyw, gallwch wylio’r ffrwd yn ôl unrhyw bryd ar sianel YouTubeEstyn.


Diweddariadau Cenedaethol

Wedi’i ddiweddaru Mai 2023Polisïau gwisg ysgol ac edrychiad disgyblion: canllawiau ar gyfer cyrff Llywodraethu
Mae’r canllawiau wedi’u diweddaru yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus, a oedd yn gofyn am farn ar fforddiadwyedd er mwyn cefnogi teuluoedd trwy’r argyfwng costau byw. Cyhoeddodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg ddatganiad mewn ymateb i’r ymgynghoriad – gallwch ei ddarllen yma.

Wedi’i ddiweddaru Ebrill 2023Grant Datblygu Disgyblion: trosolwg https://www.llyw.cymru/grant-datblygu-disgyblion-trosolwg.
Sut mae’r Grant Datblygu Disgyblion yn cael ei ddyrannu a’i ddefnyddio i helpu plant a phobl ifanc i gyrraedd eu llawn botensial.

Estyn – Arolygu ar gyfer y dyfodol (2024–2030).
Gwybodaeth am sut mae Estyn yn adolygu sut y bydd yn arolygu addysg a hyfforddiant o 2024.


Sylwadau

Ychwanegu sylw

Cysylltwch â ni

01443 844532 / 029 2075 3685 [email protected]
Sam MacNamara – 07943 887275 / Jane Morris – 07957 969708