Mae Pwyllgor Cyllid Senedd Cymru am ddeall barn pobl Cymru o ran penderfynu ym mha le y bydd Llywodraeth Cymru yn canolbwyntio ei gwariant.
Ym mis Mai a Mehefin 2022, bydd y Pwyllgor Cyllid yn cynnal rhaglen o grwpiau ffocws ar-lein i gasglu profiadau a safbwyntiau pobl ynghylch beth mae pobl Cymru am i wariant Llywodraeth Cymru ganolbwyntio arno?
Byddai’r Pwyllgor yn gwerthfawrogi’r cyfle i glywed yr hyn sydd gennych i’w ddweud ar y mater, ac yn dymuno eich gwahodd i gymryd rhan mewn grŵp focws.
Bydd y niferoedd sy’n bresennol yn y sesiynau wedi’u cyfyngu, a byddwn yn gofyn i’r holl gyfranogwyr lenwi arolwg byr cyn y cyfarfod i wneud yn siŵr ein bod yn eich cynnwys chi yng ngwaith y Pwyllgor, a’ch croesawu yn y ffordd orau bosibl.
Mae’r arolwg yn hawdd i’w lenwi a bydd yn cymryd oddeutu 4 munud i orffen.
Bydd yr arolwg yn cau ar ddydd Gwener 20 Mai 2022.
Os hoffech gofnodi eich diddordeb mewn cymryd rhan mewn grŵp ffocws, cwblhewch yr arolwg hwn
01443 844532 / 029 2075 3685
[email protected]
Sam MacNamara – 07943 887275 / Jane Morris – 07957 969708